Amdanom Ni

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yn dod â chyrff cyhoeddus ynghyd i gydweithio i wella eich llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Maent yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o lunio’r Cynllun Llesiant Lleol newydd sef gweledigaeth hir dymor ar gyfer y fwrdeistref sirol.

Mae gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent wyth aelod-fudiadau sy’n gyfrifol am gyflawni ei ddyletswyddau llesiant o dan y Ddeddf.

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Cyngor Sir Fynwy
  • Cyngor Dinas Casnewydd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

ac mae’n rhaid iddynt wahodd cyrff cyhoeddus eraill i ddod yn rhan o’r bwrdd er mwyn eu cefnogi. Gall y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd wahodd cyrff eraill sy’n rhannu eu nodau ac sy’n gallu eu helpu i gyflenwi’r Cynllun Llesiant Lleol i ddod yn rhan o’r Bwrdd. Dyma aelodau eraill Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent:

  • Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO)
  • Heddlu Gwent
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Tai Calon Community Housing, sy’n cynrychioli’r Landlordiaid Cofrestredig a Chymdeithasol
  • Cynghrair Gwirfoddol Torfaen (TVA)
  • Prifysgol De Cymru
  • Gweinidogion Cymru

Am fwy o fanylion ar ein diben, nod, rôl a chyfrifoldebau lawrlwythwch ein Hamodau Gorchwyl.

(Saesneg yn unig)

Uno BGC Gwent

Diddymwyd y 5 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngwent ym mis Medi 2021, o blaid uno i ffurfio BGC Gwent. Roedd hyn yn dilyn adroddiad Archwilio Cymru ar effeithiolrwydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a oedd yn argymell (ymhlith pethau eraill) bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn datblygu modelau gweithio hyblyg fel uno. Roedd y pum BGC ar wahân yng Ngwent eisoes wedi cydweithredu ar nifer o brosiectau rhanbarthol, er enghraifft, darparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan ac adolygiad o asedau adeiladu’r sector cyhoeddus. Mae uno yn darparu model symlach ac aliniad agosach â byrddau rhanbarthol eraill sy’n bodoli eisoes, megis y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’r Bwrdd Diogelu.

Er bod y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent unigol wedi’u diddymu fel rhan o greu BGC Gwent, mae’r Cynlluniau Lles cyfredol ar gyfer pob ardal Awdurdod Lleol yn dal i redeg tan fis Mai 2023. Bydd Grwpiau Cyflenwi Lleol ym mhob ardal awdurdod lleol yng Ngwent yn sicrhau bod y Cynlluniau Lles cyfredol yn cael eu cyflawni’n barhaus, ac yn cyfrannu at yr amcanion lles ar gyfer Gwent. Mae Hyrwyddwyr y Bwrdd o’r cyn Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymrwymo i gefnogi cyflwyno’r Meysydd Gweithredu yn eu Cynlluniau Lles cyfredol: er mwyn cefnogi gweithgaredd cydweithredol;  i gytuno ar adroddiadau perfformiad ac; i gefnogi proses graffu awdurdodau lleol tan 2023. Gweler ddolenni isod i dudalennau’r cyn-Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus:

BGC Blaenau Gwent

BGC Caerffili

BGC Sir Fynwy

BGC Casnewydd

BGC Torfaen