5 ffordd o weithio

Mae angen i gyrff cyhoeddus sicrhau eu bod yn ystyried yr effaith y gallent ei chael ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol wrth wneud eu penderfyniadau. Mae yna 5 peth y mae angen i gyrff cyhoeddus eu hystyried i ddangos eu bod wedi defnyddio’r ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’. Bydd dilyn y ffyrdd hyn o weithio yn ein helpu i gydweithio’n well, gan osgoi ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol a mynd i’r afael â rhai o’r heriau hirdymor yr ydym yn eu hwynebu.

5 ways of working icons

  1. Hirdymor – Pwysigrwydd cydbwyso anghenion tymor byr gyda’r angen i ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion hirdymor hefyd.
  2. Atal – Sut all gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gwrdd â’u hamcanion.
  3. Integreiddio – Gan ystyried sut y gall amcanion lles y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau lles, ar eu hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
  4. Cydweithio – Gweithio mewn cydweithrediad ag unrhyw berson arall (neu rannau gwahanol o’r corff ei hun) a allai helpu’r corff i gyflawni ei amcanion lles.
  5. Cymryd Rhan – Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni nodau     lles, a sicrhau bod y bobl hynny yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae’r corff yn ei gwasanaethu.