Mae ymgysylltiad parhaus gyda phreswylwyr a busnesau drwy’r gwaith o ddatblygu’r strategaeth hon a strategaethau ehangach wedi nodi rhwystrau a galluogwyr cyson ar gyfer cymryd camau i gyflawni carbon sero net.
Y themâu rhwystrol a archwiliwyd drwy’r ymgysylltiad oedd:
Nid fy nhŷ i ydyw. Beth allwn i ei wneud?
Mae pobl yn dweud, ‘problem i chi yw hyn nid fi’.
Rydym yn byw mewn argyfwng costau byw.
Maen nhw eisiau i ni gael y bwyleri hyn am 5 mil o bunnoedd. Nid yw hynny’n mynd i ddigwydd.
Ni allwn wneud ‘Veganuary’, oni bai fy mod ddim yn bwyta tan fis Chwefror.
Pan maen nhw’n sôn am dyrbin gwynt ar y mynydd, mae’r gymuned yn cynhyrfu
Byddan nhw’n meddwl fy mod i’n mynd i yrru i Gaerdydd am gnau mewn bag papur.
Rwy’n hoffi beth rwy’n ei hoffi, dwi’n gyrru beth rwy’n hoffi ei yrru, rwy’n bwyta’r hyn rwy’n ei fwyta.
Y cyfan rwy’n ei glywed yw bod bysiau yn annibynadwy.
Rwy’n cofio pan oeddynt ond yn sôn am osod gwres canolog.
Cafodd fy nghymydog solar. Erbyn i mi allu ei fforddio, bydd rhywbeth arall newydd.
Nododd yr ymgysylltiad fod preswylwyr a busnesau yn ystyried y sector cyhoeddus yn allweddol i’w galluogi i weithredu:
Siop un cam, lle gallwn fynd, a lle byddwn yn ymddiried yn y cyngor ac a fyddai’n gallu gosod hyn i mi
Mae angen iddyn nhw wrando’n astud ar fy mhryderon: nid oes cywilydd mewn rhwystrau.
Dywedais ‘Nid wyf yn dda iawn am hyn, iawn?’ aeth drwy’r hyn roeddwn i wedi’i wneud. (y cynnig): cawsom sgwrs hir… Gwnaeth hyn wahaniaeth mawr.
Ochr yn ochr â’r cais am alluogwyr ffurfiol drwy’r sector cyhoeddus, mae gan breswylwyr a busnesau ymdeimlad o gyfrifoldeb personol, dyletswydd foesol a chyfle:
Dywedais wrth fy Ŵyr, rwyf eisiau gwybod y byddi’n tyfu i fyny mewn byd gwell, glanach. Mae hynny’n fy mhoeni.
Mae gennym bobl sy’n ein ffonio a dweud ‘Rwy’n hoffi’r hyn rydych yn ei wneud a pham eich bod yn ei wneud, ailddefnyddio pethau’ ac rwy’n teimlo eu bod eisiau i ni fod yn gyflenwr oherwydd hynny.
Ein syniadau busnes, maen nhw’n risg, ond pe byddem yn rhoi’r gorau iddi oherwydd hynny, ni allem gyflawni anghenion cwsmeriaid.
Nodwyd naw thema drawsbynciol gennym sy’n pennu ein hamcanion. Mae lliniaru’r newid hinsawdd yn galw am newid ymddygiad ac mae hyn yn galw am newid ffordd o feddwl.
Cyfrifol – Mae angen i ni alluogi preswylwyr a busnesau i ddeall sut mae eu penderfyniadau dyddiol yn effeithio ar newid hinsawdd.
Recriwtio – Mae angen i ni ymgysylltu â phawb i gydnabod cyfrifoldeb ac ymrwymiad a rennir ar gyfer y datrysiad.
Gwybodus – Mae angen i ni ddarparu gwybodaeth glir am sut i leihau allyriadau yn effeithiol.
Galluogi – Mae angen i ni ddiddymu rhwystrau sy’n atal arferion cynaliadwy rhag cael eu mabwysiadu.
Adnoddau – Mae angen i ni sicrhau y gall preswylwyr a busnesau gael mynediad at offer ac adnoddau angenrheidiol i hwyluso newid.
Deall – Mae angen i ni sicrhau dealltwriaeth o’r rhesymau sy’n sail i ymddygiad pobl er mwyn gallu cefnogi newid yn well.
Iach – Byddwn yn hyrwyddo gweithredoedd sy’n alinio â gwerthoedd iach a chynaliadwy.
Cyfartal – Byddwn yn sicrhau gweithredoedd sy’n blaenoriaethu anghenion y rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y newid hinsawdd.
Cydlynol – Byddwn yn cydgysylltu gweithredoedd i fod yn effeithlon, yn llai gwastraffus ac yn rhwydd eu gweithredu.
Mae’r rhain wedi’u cysylltu â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r saith nod llesiant yn dangos y math o Gymru rydym am ei gweld. Gyda’i gilydd maen nhw’n darparu gweledigaeth a rennir i’r sector cyhoeddus weithio tuag ati. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i’r sector cyhoeddus weithio i gyflawni’r holl nodau, nid dim ond un neu ddau ohonynt.
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith teg. Awgrymodd ein hymgynghoriad bod diffyg adnoddau yn rhwystr i breswylwyr a busnesau gyflawni sero net allyriadau carbon erbyn 2050.
Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid yn yr hinsawdd.
Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau.
Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.
Cyflawnir hyn trwy:
Gallai cydweithio ag unrhyw bobl a sefydliadau eraill gyflawni ein hamcanion.
Ystyried sut gall yr amcanion llesiant effeithio ar y nodau llesiant, ar amcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu.
Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen i ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.
Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu ein helpu i gyflawni ein hamcanion.
Bydd arloesedd digidol yn parhau i ddylanwadu ar y meysydd a drafodir yn y penodau canlynol. Gall datrysiadau digidol gynnig llwybrau addawol at gynaliadwyedd.
Climate change is the greatest challenge of our time, and achieving net zero is one of the principal tools we have in tackling it.
Ynni: Mae gan dechnolegau digidol rôl hollbwysig wrth drawsnewid systemau ynni. Gallwn leihau allyriadau carbon drwy alluogi rheolaeth ynni doethach ac integreiddio ffynonellau adnewyddadwy. Bydd gweithredu systemau rheoli ynni clyfar yn strategol, integreiddio ynni adnewyddadwy a chynnal a chadw rhagfynegol yn lleihau allyriadau carbon ac yn gwella effeithlonrwydd ynni a gwydnwch.
Teithio a Thrafnidiaeth: Mae data telemateg ac optimeiddio yn helpu i leihau allyriadau o drafnidiaeth drwy wella effeithlonrwydd teithiau a lleihau milltiredd. Yn strategol, mae datrysiadau digidol yn cefnogi datblygiad seilwaith trafnidiaeth ac yn hwyluso’r mwy o ddefnydd o dechnoleg cerbydau preifat neu fflyd ochr yn ochr â mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.
Adeiladau: Mae Systemau Rheoli Ynni Adeiladau (BEMS) Clyfar yn galluogi dull amser real o fonitro ac optimeiddio’r defnydd o ynni, sy’n cyfrannu at allyriadau is. Yn strategol, bydd y ffocws ar fanteisio i’r eithaf ar y syniadau arloesol hyn i wella cynaliadwyedd strwythurau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes.
Sefydliadau a busnesau: Mae trawsnewidiadau digidol yn cynnig cyfleoedd i sefydliadau gyflawni nodau cynaliadwyedd. Bydd cyfrifiadura cwmwl, rheoli cadwyn gyflenwi yn ddigidol, a dadansoddeg data yn ysgogi effeithlonrwydd a thryloywder, lleihau gwastraff ac allyriadau. Yn strategol, bydd angen i sefydliadau gydbwyso buddion technolegau digidol gyda’u costau carbon posibl.
Yn y DU mae £3 triliwn wedi’i fuddsoddi, naill ai mewn pethau sy’n helpu’r blaned, neu sy’n ei dinistrio.
Amaethyddiaeth: Bydd ffermio fanwl, wedi’i phweru gan dechnolegau digidol, yn hollbwysig ar gyfer amaethyddiaeth gynaliadwy. Bydd arloesiadau yn galluogi penderfyniadau wedi’u llywio gan ddata er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau a lleihau allyriadau. Bydd y ffocws ar integreiddio’r technolegau hyn i wella cynhyrchiant wrth leihau’r effaith ar yr amgylchedd yr un pryd.
Rheoli gwastraff a diwylliant o beidio â pherchnogi: Bydd cynigion digidol yn lleihau’n gynyddol yr angen i fod yn berchen ar wrthrychau penodol. Mae datrysiadau papur a cherddoriaeth wedi newid ac erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o bryniannau yn ddigidol. Gall datrysiadau digidol wella dulliau rheoli gwastraff drwy wella prosesau olrhain, trefnu ac ailgylchu er mwyn gwella effeithlonrwydd, cyfrannu at yr
a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr wrth reoli a thrin gwastraff.Mae integreiddio technolegau digidol yn strategol ar draws y sectorau hyn yn hollbwysig. Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod bod gan ddatrysiadau a thechnolegau digidol eu heffeithiau negyddol eu hunain ac nad ydynt yn gwasanaethu fel bwledi arian ar gyfer cyflawni sero net. Mae cynnydd mewn technolegau digidol yn creu cymhlethdodau ychwanegol o ran ailddefnyddio, ailgylchu a gwaredu cydrannau digidol gyda’r potensial i wrthbwyso rhywfaint o’r gostyngiadau mewn nwyon tŷ gwydr. Mae pob gweithred ddigidol yn creu ôl-troed allyriadau; pob clic ar wefan, atodiad e-bost a lawrlwythiad. Gallai fod gan Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) a mathau eraill o dechnoleg gost carbon uwch o gymharu â thechnolegau blaenorol oherwydd eu gofynion arwyddocaol o ran ynni, dŵr ac oeri. Mae allyriadau ymhellach i fyny’r gadwyn gyflenwi ar gyfer gweithgynhyrchu cydrannau yn sylweddol ac mae effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol negyddol ehangach yn gysylltiedig â chadwyni cyflenwi echdynnu deunydd crai.
Yr amcanion sy’n sail i integreiddio a mabwysiadu technolegau digidol yn strategol er mwyn cyflawni sero net erbyn 2050 yw:
Fe wnaethoch fy helpu i sylweddoli nad yw Cwmwl yn fin; mae gan bopeth gost garbon.
Mae ein hymgynghoriad cyhoeddus wedi amlygu pwysigrwydd dull dysgu gydol oes i helpu preswylwyr a busnesau ddeall a lleihau eu hallyriadau, mynd i’r afael â chamwybodaeth a dylanwadu eraill drwy’r hyn a wnawn yn ein cartrefi ac yn y gweithle. Mae’r thema hon yn gwau drwy holl benodau’r ddogfen hon ond bydd angen adnoddau a sylw penodol ar ei chyfer.
Mae gennym i gyd ran i’w chwarae yn cyflawni’r nod hwnnw – ac mai plant heddiw fydd oedolion y dyfodol, y bobl a fydd yn rhoi’r cynlluniau hyn ar waith.
Felly, addysg am sero net: mae egluro’r cysyniad a galluogi plant i weld eu rôl eu hunain yn yr her hon yn hollbwysig. Gallwn fynd i’r afael â hyn, os byddwn yn wynebu ein dyfodol gyda’n gilydd.
Mae addysg yn strategol bwysig fel ysgogwr newid mewn ymddygiad ac fel hwyluswr yn natblygiad arloesedd a’r cadwyni cyflenwi angenrheidiol i gyflawni sero net. Bydd dealltwriaeth barhaus o sgiliau ac anghenion addysgol yn berthnasol i sicrhau poblogaeth wybodus sy’n gallu cyflawni sero net.
Sgiliau Meddal: Mae llythrennedd carbon yn sylfaenol er mwyn cymhwyso preswylwyr a busnesau gyda dealltwriaeth o nwyon tŷ gwydr, y prosesau sy’n eu hachosi, effeithiau’r nwyon hyn ar ein hinsawdd yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang a sut i weithredu i leihau eu heffeithiau allyriadau yn eu cartrefi, yn y gwaith ac yn y gymuned.
Er mwyn cyflawni hyn, yn strategol, mae’n hanfodol bod datgarboneiddio yn rhan annatod o bob agwedd ar ein haddysg ac nad yw wedi’i gyfyngu i rai meysydd pwnc megis daearyddiaeth a gwyddoniaeth, ond mae angen iddo dorri ar draws y cwricwlwm cyfan a dylanwad e.e. y celfyddydau.
Sgiliau Technegol: Wrth gyflawni sero net ar draws meysydd Ynni, Adeiladau, Teithio a Thrafnidiaeth, Sefydliadau, Defnydd Tir a Gwastraff, mae galw am sgiliau technegol i gefnogi cyflwyniad camau gweithredu cysylltiedig. Bydd buddsoddiad strategol yn natblygiad parhaus dysgu ac arloesedd yn ein galluogi i ehangu gweithlu medrus, gan fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau sero net a chynnal
a chadwyni cyflenwi ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.Sefydliadau Addysgol: Ar draws pob lefel o sefydliadau addysgol mae gofyniad i ddarparu mynediad teg at addysg sydd ei hangen i gyflawni sero net. Mae angen i’r addysg hon fod yn hyblyg i aros yn berthnasol i ddatblygiadau technolegol parhaus a dealltwriaeth wyddonol. Yn strategol, mae angen i sefydliadau addysgol fod â chysylltiad agos â diwydiant i ymgorffori arloesedd yn ogystal â datblygu llwybrau gyrfa.
Rydym eisiau dweud wrth bobl, busnesau, y llywodraeth, edrychwch, mae gennym arf pwerus iawn yn ein poced.
Ar gyfer preswylwyr a busnesau ar draws y Fwrdeistref Sirol, mae gennym hefyd ôl troed carbon ariannol. Gall ein cyfrifon banc fod gyda darparwyr sy’n buddsoddi mewn tanwydd ffosil. Mae ôl troed sylweddol i’n pensiynau, ac mae ymchwil yn dangos y gall y pensiwn personol cyfartalog fod yn gyfrifol am gymaint o allyriadau â 4 hediad i Madrid y flwyddyn. Os ydym yn poeni am ein hôl troed teithio a diet, mae hwn hefyd yn faes i’w ystyried. Ym mhennod 4 y Strategaeth hon, edrychwn ar olion traed sefydliadol a’r angen i fod yn ymwybodol o bŵer ein penderfyniadau ariannol yn y gweithle fel sbardun tuag at sero net.
Er bod rhai newidiadau i ymddygiad yn fwy diriaethol neu weladwy yn lleol, megis prynu cerbyd trydan neu osod pwmp gwres, gall penderfyniadau a wnawn ar ein buddsoddiadau a phensiynau fod yn fwy byd-eang eu natur.
Fe wnaethom waith ymchwil a ddangosodd y gall newid eich darparwr pensiwn fod 21 gwaith yn well na rhoi’r gorau i hedfan, troi’n fegan, neu newid darparwr trydan.
Nid dim ond ffordd o leihau allyriadau drwy ddefnyddio pŵer y bunt i leihau echdynnu tanwyddau ffosil yw dad-fuddsoddiad, ond ar yr un pryd mae’n gyfle i gael effaith ddwbl drwy fuddsoddi yn hytrach mewn cronfeydd, er enghraifft cefnogi technoleg werdd neu waredu nwyon tŷ gwydr.
Y peth wnaeth wir fy nharo oedd y gall pawb sydd ag arian mewn banc, mewn pensiwn, fod yn gyfranogwr pwysig i, neu’n ddatrysiad, ar gyfer y newid yn yr hinsawdd.