Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yn dod â chyrff cyhoeddus ynghyd i weithio i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Gwent. Maen nhw’n gyfrifol, o dan Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), am oruchwylio datblygiad y Cynllun Lles Lleol newydd.
Ym mis Mawrth 2021 cytunodd y Senedd y byddai Cymru’n cyflawni sero netallyriadau carbon erbyn 2050.
Mae’r newid yn yr hinsawdd yn her sy’n effeithio ar bob agwedd o’n bywydau. Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno ymrwymiad aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflawni sero net allyriadau carbon erbyn 2050. Mae’r strategaeth hon yn amlinellu ein llwybr at ddyfodol cynaliadwy, a sicrhau amgylchedd iachach i genedlaethau heddiw a’r dyfodol.
Efallai eich bod chi wedi clywed am Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), ond beth yw ei phwrpas? Yn gryno, ei phwrpas yw gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol >
Mae angen i gyrff cyhoeddus sicrhau eu bod yn ystyried yr effaith y gallent ei chael ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol wrth wneud eu penderfyniadau. Mae yna 5 peth y mae angen i gyrff cyhoeddus eu hystyried i ddangos eu bod wedi defnyddio’r ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’. Bydd dilyn y ffyrdd hyn o weithio yn ein helpu i gydweithio’n well, gan osgoi ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol a mynd i’r afael â rhai o’r heriau hirdymor yr ydym yn eu hwynebu.
Pwysigrwydd cydbwyso anghenion tymor byr gyda'r angen i ddiogelu'r gallu i ddiwallu anghenion hirdymor hefyd.
Sut all gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gwrdd â'u hamcanion.
Gan ystyried sut y gall amcanion lles y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o'r nodau lles, ar eu hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
Gweithio mewn cydweithrediad ag unrhyw berson arall (neu rannau gwahanol o'r corff ei hun) a allai helpu'r corff i gyflawni ei amcanion lles.
Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni nodau lles, a sicrhau bod y bobl hynny yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae'r corff yn ei gwasanaethu.
Poeni am gostau byw? Darganfyddwch pa gefnogaeth sydd ar gael yng Ngwent
Gweler ein dolenni defnyddiol