Cynllun Llesiant

Mae’n rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus lunio a chyhoeddi Cynllun Llesiant lleol gan osod ei amcanion lleol a’r camau arfaethedig er mwyn eu cyflawni.

Cyflawnodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent ei asesiad llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Gwent. Gallwch chi ddarllen yr Asesiad Llesiant yma, ac mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn defnyddio’r wybodaeth o’r asesiad i ddrafftio ei Gynllun Llesiant i helpu gwella’r rhanbarth ar gyfer ei drigolion.

Mae’n rhaid i’r Cynllun Llesiant nodi:

  • Pam bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn teimlo y bydd yr amcanion yn cyfrannu at y nodau llesiant o fewn Gwent, a
  • Sut y cafodd yr asesiad llesiant ei ddefnyddio wrth osod yr amcanion a’r camau y bydd yn eu cymryd

Daeth yr Ymgynghoriad ar y Cynllun Llesiant drafft i ben ar 31ed o Ragfyr 2022 ac rydym ar hyn o bryd yn dadansoddi’r adborth.  Fodd bynnag, mae’r Cynllun Llesiant drafft i’w weld yn y ddolen isod:

Ymgynghoriad ar Ddrafft Cynllun Llesiant ar gyfer Gwent

Ar ôl ymgynghori, rhaid i’r cynllun gael ei gymeradwyo gan aelodau statudol y bwrdd.

Ar ôl iddo gael ei gyhoeddi, bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn anfon copi o’i Gynllun Llesiant lleol at Weinidogion Cymru, y Comisiynydd, Archwilydd Cyffredinol Cymru a phob un o bwyllgorau trosolwg a chraffu yr awdurdodau lleol.

Mae’n rhaid i’r cynllun hwn gael ei gyhoeddi o fewn 12 mis o etholiad llywodraeth leol cyffredin. Felly mae’n rhaid i gynllun Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent gael ei gyhoeddi erbyn 22 Mehefin 2023. Byddwn ni’n cyhoeddi’r cynllun terfynol ar y dudalen hon pan fydd yn barod.