Rhanbarth Marmot Gwent

Y Sefyllfa Bresennol

Heddiw, mewn sawl cymuned yng Ngwent, nid yw pobl yn byw gyn hired ag y dylent. Pan nad oes ganddynt y pethau mae arnynt eu hangen, megis cartrefi cynnes, bwyd iach a gwaith teg, ac os ydynt yn poeni drwy’r amser am gael deupen llinyn ynghyd, mae hynny’n rhoi straen ar eu cyrff. Mae hyn yn arwain at gynnydd mewn straen, pwysau gwaed uwch a system imiwnedd wannach. Yn ein bröydd lleiaf cefnog yng Ngwent, dim ond 48 o flynyddoedd o’u bywyd y mae menywod yn byw mewn iechyd da. Y newydd da yw fod newid yn bosibl.

Cydweithio i Ddatrys y Broblem 

Gyfochr â chartrefi, gwaith a bwyd iach, ceir datrysiadau, megis addysg dda a sgiliau, incwm sicr, trafnidiaeth dda, amgylchoedd dymunol, a theulu, ffrindiau a chymunedau cefnogol. Dyma’r elfennau sydd eu hangen i greu Gwent iachach lle gall pawb fyw bywyd iach a chyflawnedig. Heddiw, mewn gormod o’n cymunedau, mae’r elfennau hyn ar goll. Mae hi’n amser cael gwared ar y bylchau.

Beth yw Rhanbarth Marmot?

Mae Rhanbarth Marmot yn rhwydwaith o randdeiliaid lleol sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag annhegwch drwy weithredu ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd – yr amodau cymdeithasol ac economaidd sy’n dylanwadu ar ein hiechyd.  Mae’r camau gweithredu’n seiliedig ar fframwaith o wyth egwyddor: 

  • Rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn
  • Galluogi pob plentyn, person ifanc ac oedolyn i wneud y gorau o’u galluoedd a rheoli eu bywydau eu hunain
  • Creu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb
  • Sicrhau safon byw iach i bawb
  • Creu a datblygu mannau a chymunedau iach a chynaliadwy
  • Cryfhau rôl ac effaith atal afiechyd
  • Mynd i’r afael â hiliaeth a gwahaniaethu, a’u canlyniadau
  • Anelu at gynaliadwyedd amgylcheddol a thegwch o ran iechyd gyda’n gilydd.

Beth mae dod yn Rhanbarth ‘Marmot’ yn ei olygu i Gwent?

Mae dod yn Rhanbarth Marmot yn arwydd o fwriad cyfunol i gydweithio er mwyn gwella tegwch ledled Gwent, ac o ganlyniad, gwella bywydau ym mhob un o’n cymunedau.  Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, sy’n cynnwys ein gwasanaethau cyhoeddus lleol – Iechyd, Cynghorau, Gwasanaethau Tân, yr Heddlu, Tai, Addysg, gwasanaethau amgylcheddol a sefydliadau Gwirfoddol – wedi gofyn i’r Athro Syr Michael Marmot a’i dîm yn y Sefydliad Tegwch Iechyd (IHE), ddod i gynnig cymorth i Gwent. Mae gan yr Athro Marmot dros 40 mlynedd o brofiad o ddynodi’r amodau sydd eu hangen er mwyn i bawb allu ffynnu.

Rhanbarth Marmot Gwent a Chynllun Llesiant Gwent

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent wrthi’n datblygu cynllun pum mlynedd newydd.  Un amcan yn y Cynllun Llesiant hwn yw creu Gwent deg a chyfiawn i bawb.  Bydd egwyddorion Marmot yn cael eu defnyddio fel fframwaith ar gyfer camau gweithredu i gyflawni’r amcan hwn, ac i ddarparu dull gweithredu cyson ledled Gwent i wella tegwch dros y pum mlynedd nesaf. Pan gaiff ei gyhoeddi, bydd y Cynllun Llesiant yn nodi’r camau y bydd partneriaid yn eu cymryd a sut y byddwn yn mesur gwelliant fel bod ein hymrwymiadau’n glir ac er mwyn gallu olrhain cynnydd.

Mae fframwaith Egwyddorion Marmot yn cefnogi uchelgais Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent i sicrhau bywydau tecach ac iachach a’r nod o sicrhau llesiant ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd hyn yn galluogi camau gweithredu i sicrhau newid er mwyn buddsoddi mewn addysg, swyddi, tai cymdeithasol da, trafnidiaeth well, a’r amgylchedd adeiledig.  

Dilyn y Diweddaraf

Eisiau’r diweddaraf am daith Gwent i ddod yn Rhanbarth Marmot? Tanysgrifiwch i’n rhestr bostio isod.