Digwyddiad lansio Rhanbarth Marmot Gwent

Dydd Gwener 21 Hydref 2022

Recordiad o’r digwyddiad: Yma

Mae sleidiau cyflwyniad ar gael yma: Presentation_MarmotLaunch_211022

Gwent yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau drwy ddod y ‘Rhanbarth Marmot’ cyntaf yng Nghymru

Mae adolygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru diweddar wedi datgelu bod bywydau rhai pobl sy’n byw mewn rhai ardaloedd o Went yn cael eu byrhau o ganlyniad i anghydraddoldebau mewn ffordd o fyw.

I fynd i’r afael â hyn, mae partneriaid sy’n ffurfio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent (PSB) yn dod ynghyd i leihau anghydraddoldebau a gwneud Gwent y Rhanbarth Marmot cyntaf yng Nghymru.

Ar Hydref 21 daeth arweinwyr ar draws sefydliadau sector cyhoeddus yng Ngwent at ei gilydd ar gyfer Lansio Rhanbarth Marmot Gwent yn y Sefydliad Lysaght Casnewydd. Clywodd y rhai a fynychodd fod 18 mlynedd o fwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng ardaloedd cyfoethocaf a thlotaf yng Ngwent. Yn y cymdogaethau lleiaf cefnog yn y rhanbarth, dim ond 48 o flynyddoedd o’u bywyd y mae menywod yn byw mewn iechyd da.

Mae dod yn Rhanbarth Marmot yn arwydd o fwriad cyfunol i gydweithio er mwyn gwella tegwch ledled Gwent, ac o ganlyniad, gwella bywydau ym mhob un o’n cymunedau. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent (sy’n cynnwys ein gwasanaethau cyhoeddus lleol – Iechyd, Cynghorau, Gwasanaethau Tân, yr Heddlu, Tai, Addysg, gwasanaethau Amgylcheddol a sefydliadau Gwirfoddol) wedi gofyn i’r Athro Syr Michael Marmot a’i dîm yn y Sefydliad Tegwch Iechyd (IHE), ddod i gynnig cymorth i Went. Mae gan yr Athro Marmot dros 40 mlynedd o brofiad o ddynodi’r amodau sydd eu hangen er mwyn i bawb allu ffynnu.

Dywedodd Cynghorydd Sean Morgan, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent: “Mae datblygu cymunedau cryf ble gall pobl fyw’n dda angen blociau adeiladu penodol megis tai cynnes, bwyd iach a gwaith teg – ac ar hyn o bryd mae rhai o’r blociau adeiladu hyn ar goll yn rhai o’n cymunedau.

“I roi hwb i’r newid sydd ei angen, byddwn yn creu cynllun lleol i leihau anghydraddoldebau a rhoi cymorth i gymunedau ar draws Gwent i fyw’n hir ac iach.”

Yn Lansiad Rhanbarth Marmot Gwent, dywedodd yr Athro Syr Michael Marmot: Chi yw’r ateb mewn perthynas â sut fyddwn yn mynd ati i wneud gwahaniaeth wrth feithrin Gwent sy’n decach ac yn well eto, rwyf mor falch eich bod yn rhan o’r mudiad cymdeithasol hwn. Mae’n hanfodol ein bod yn cael gafael da ar sut i wneud gwahaniaeth – gall pobl sy’n gweithio ar lefel leol ac sydd wedi ymrwymo’n llwyr i’r achos, wneud gwahaniaeth gwirioneddol yng Ngwent.

Rhaid i ni fynd i’r afael â ffactorau newidiol argyfyngau’r llywodraeth a chostau byw, a’r cam cyntaf yw rhoi tegwch ac iechyd wrth wraidd popeth rydych yn ei wneud.”

Bio Siaradwyr.

Michael Marmot

Mae Syr Michael Marmot wedi bod yn Athro Epidemioleg yng Ngholeg Prifysgol Llundain ers 1985, ac mae’n Gyfarwyddwr Sefydliad Ecwiti Iechyd UCL. Ef yw awdur The Health Gap: the challenge of an unequal world (Bloomsbury: 2015), a Status Syndrome (Bloomsbury: 2004).

Mae Michael yn Gynghorydd i Gyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd, ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd, yn Is-adran Poblogaethau Iachach Sefydliad Iechyd y Byd a chyd-Gyfarwyddwr Sefydliad Ecwiti Iechyd CUHK. Mae wedi arwain grwpiau ymchwil ar anghydraddoldebau iechyd ers bron i 50 mlynedd.

Cadeiriodd Michael Gomisiwn Sefydliad Iechyd y Byd ar Benderfynyddion Cymdeithasol Iechyd, sawl Comisiwn Rhanbarthol Sefydliad Iechyd y Byd, ac adolygiadau ar fynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd ar gyfer llywodraethau yn y DU. Ef yw Llywydd Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint. Mae’n Gymrawd Academi’r Gwyddorau Meddygol ac yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg Epidemioleg America a Chyfadran Iechyd y Cyhoedd; yn Gymrawd er Anrhydedd o’r Academi Brydeinig; a Cholegau Brenhinol Obstetreg a Gynaecoleg, Seiciatreg, Paediatreg ac Iechyd Plant, a Meddygon Teulu. Mae’n aelod etholedig o Academi Feddygaeth Genedlaethol UDA ac Academi Meddygaeth Brasil.

Yn 2000, cafodd Michael gydnabyddiaeth gan Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II, am wasanaethau i epidemioleg a dealltwriaeth o anghydraddoldebau iechyd.

 

Dyfodol Cadarnhaol

Mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth chwaraeon, hamdden, celfyddydol a diwylliannol ac yn elusen gofrestredig yn y DU, a sefydlwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd, sy’n darparu gwasanaethau ac yn ‘ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac yn iachach’. Dan arweiniad Casnewydd Fyw, mae Dyfodol Cadarnhaol yn rhaglen cynhwysiant cymdeithasol sy’n seiliedig ar chwaraeon ar gyfer plant a phobl ifanc, a sefydlwyd yng Nghasnewydd ers 2002 fel rhan o fenter y Swyddfa Gartref gyda chyllid a chymorth gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, yn ogystal â Chwaraeon Cymru, Awdurdodau Lleol, Alliance of Sport, a chwaraeon eraill y DU ar gyfer elusennau datblygu.

Mae gan Dyfodol Cadarnhaol hanes rhagorol o gyrraedd, ymgysylltu a newid bywydau plant a phobl ifanc ar lefel ymyrraeth gynnar ac atal, gan ddefnyddio chwaraeon, gweithgaredd corfforol, a’r celfyddydau fel arf ymgysylltu, gan ganolbwyntio ar anghydraddoldeb a theuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd o dlodi ar draws Casnewydd a Gwent.

Casnewydd Fyw | Dyfodol Cadarnhaol

 

Cyng Sean Morgan (Cadeirydd BGC)

Mae Bywgraffiad ar gael ar wefan y BGC: Proffiliau aelodau – Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent (gwentpsb.org)

 

Dr Sarah Aitken

Mae Bywgraffiad ar gael ar wefan BGC: Proffiliau aelodau – Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent (gwentpsb.org)

 

Stephen Vickers

Mae Bywgraffiad ar gael ar wefan BGC: Proffiliau aelodau – Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent (gwentpsb.org)

 

Paul Matthews

Penodwyd Paul fel Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy yn 2009. Mae’n athro gwadd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn un o Lywodraethwyr / Ymddiriedolwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, arweinydd SOLACE ar gyfer y portffolio economi a digidol a chlerc Arglwydd Raglaw Gwent. Mae Paul wedi bod yn swyddog canlyniadau ers dros ddegawd, ac mae wedi chwarae rôl sylweddol yn y gwaith o adeiladu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’i Bargen Ddinesig. Mae Paul wedi meddu sawl swydd ymgynghorol a Bwrdd o fewn y llywodraeth a sefydliadau masnachol. Mae Paul yn fentor, yn hyfforddwr, ac yn falch iawn o fod yn was cyhoeddus galwedigaethol. Mae’n arweinydd, sy’n cofio dweud ‘diolch’ bob tro.