Ein Taith Frandio

Rhanbarth Marmot Gwent: Taith Datblygu Brand

Datblygwyd gan Scott Wilson-Evans, Pennaeth Strategol Cyfathrebiadau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Gweler Scott yn siarad trwy ein taith yma:

Yr Uchelgais

Creu hunaniaeth brand a all ysbrydoli mudiad i annog newid ar y cyd fel system lawn er mwyn lleihau anghydraddoldebau a rhoi cymorth i gymunedau ar draws Gwent i fyw’n dda a byw’n hir. Roedd datblygu’r brand yn cael ei gynnwys fel argymhelliad o weithredu ym Mhapur Diweddariad Marmot PSB Gwent ar 29 Medi dan Eitem 5 i Fwrdd PSB Gwent.

Y Gofyniad 

Creu logo, pennawd, palet lliwiau ac asedau digidol / all-lein ategol i’w defnyddio ar draws y gwaith Rhaglen Marmot ar gyfer partneriaid.

Cynhaliwyd ymarfer caffael gan Bennaeth Strategol Cyfathrebiadau Iechyd Poblogaeth a Grŵp Arweinyddiaeth Marmot, a phenodwyd Orchard fel yr asiant dylunio i gyflawni’r uchelgais hon.

Y Daith

Wrth greu’r hunaniaeth brand, crëwyd a phrofwyd y rhestr ganlynol o feysydd o fewn y grwpiau ffocws:

  • Geiriau
  • Penawdau
  • Ffontiau
  • Palet Lliwiau
  • Logos
  • Cysyniadau Llawn

Cafodd 4 cysyniad cychwynnol eu creu a’u profi gyda grwpiau cymunedol. Yn dilyn adborth o’r sesiynau hynny, gwnaed mân addasiadau ac yna cyflwynwyd y ddau gysyniad a ffafriwyd i randdeiliaid proffesiynol.

Ffigwr. 4 Cysyniad Brandio

Gweithio ar y Cyd

Mae dod yn Rhanbarth Marmot yn ddull cydweithredol, a dylai creu brand iddo fod yn union yr un fath. Gan fod gwaith Rhanbarth Marmot yn effeithio ar genedlaethau’r dyfodol, darparwyd grwpiau ffocws a sesiynau adborth Cymunedau Gwent a phartneriaid gan yr asiant a Grŵp Arweinyddiaeth Marmot i gyd-gynhyrchu’r hunaniaeth brand.

Cynhaliwyd Grwpiau Ffocws â:

  • Phobl ifanc (14 oed – 18 oed)
  • Grŵp Allgymorth Cymunedol yn cynnwys oedran cymysg o breswylwyr lleol Gwent

Adborth Proffesiynol

  • Yn y digwyddiad Lansio Marmot ar 21 Hydref cyflwynwyd y ddau gysyniad terfynol a chafodd y mynychwyr gyfle i bleidleisio a rhoi adborth ar eu hoff ddewis.

Ffigwr: Y Fersiwn Corfforaethol ar y Chwith a’r Fersiwn Ieuengaf ar y Dde

Y Canlyniad Terfynol

Yr adborth a gafwyd gan y bobl ifanc a’r grŵp ffocws cymunedol oedd bod y brand ieuengaf yn cael ei ffafrio, ac yn y digwyddiad proffesiynol, roedd y partneriaid yn ffafrio’r brand corfforaethol.

Cynhyrchwyd cysyniad terfynol yn seiliedig ar hoff elfennau allweddol pobl o’r ddau fersiwn, gan gymryd yr opsiynau corfforaethol ac esmwytho’r conglfeini i’w gwneud yn llai corfforaethol yn ogystal â diwygio’r ffont canolog er mwyn rhoi ymdeimlad mwy cynhwysol iddo.

Mae’r cysyniad bellach wedi’i gwblhau ac yn barod i’w ddefnyddio.

Noder:

Yn y logo mae’r 8 petryal yn cynrychioli’r 8 egwyddor Marmot, a drefnwyd ar ffurf seren i ddangos cydweithrediad.  Y pwynt Canolog yn y logo yw Gwent sydd wedi’i drefnu i weithio’n ddwyieithog yn dilyn cyngor ar yr Iaith Gymraeg.

Nodyn am y Dyfodol:

Wrth i agenda PSB Gwent barhau i ddatblygu mae modd defnyddio’r brand yn hyblyg. Er enghraifft mae modd addasu ‘Gwent Teg i Bawb’ ar gyfer amrywiol flaenoriaethau megis ‘Gwent Ddiogel i Bawb’, ‘Gwent Hapus i Bawb’, ‘Gwent Fwy Gweithgar i Bawb’ etc.