Dangosyddion Cenedlaethol

I sicrhau bob pob un ohonom yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf wedi gosod mewn lle saith nod llesiant.

Os ydym yn mynd i gyflawni’r nodau llesiant hyn ar y cyd bydd angen ffordd o fesur cynnydd arnom er mwyn i bob un ohonom weld os yw pethau’n gwella i Gymru gyfan. Dyna pam bod y Ddeddf yn gosod gofyniad cyfreithiol ar Weinidogion Cymru i osod dangosyddion cenedlaethol.

Gall y dangosyddion hyn gael eu mynegi yn nhermau gwerth neu nodweddion y mae modd eu mesur yn feintiol (e.e. rhif) neu’n ansoddol (e.e. ansawdd rhywbeth) yn erbyn y nodau llesiant. Hefyd mae modd iddynt fod yn fesuradwy yng nghyswllt Cymru neu unrhyw ran o Gymru.

Tra bod y dangosyddion wedi’u gosod gan Weinidogion Cymru, maent yn adlewyrchu Cymru gyfan a byddant yn ein galluogi i ddeall y cyfraniadau a wneir gan bawb.

Mae’r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion i adolygu ac i addasu’r dangosyddion cenedlaethol er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn gyfoes ac yn berthnasol. Ar ddechrau pob blwyddyn ariannol mae’n rhaid i Weinidogion gyhoeddi adroddiad cynnydd blynyddol sy’n gosod y cynnydd a brofwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.


Dangosyddion Cenedlaethol Cymru

Mae Dangosyddion Cenedlaethol Cymru yn ofyniad o dan Adran 10(1) Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.