Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) i gynhyrchu asesiad lleol o les bob pum mlynedd. Dechreuodd y pum BGC ar wahân yn rhanbarth Gwent weithio i ymgymryd â’r broses asesu ac ymgysylltu mewn cydweithrediad ym mis Ionawr 2021. Fe gytunon nhw i gynhyrchu un Asesiad ar gyfer Gwent cyfan, gydag asesiadau lleol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol.
Yn yr un modd â chynhyrchu’r Asesiadau Lles diwethaf yn 2017, roedd data’n cael ei gasglu o ystod o ffynonellau, gan gynnwys gan Data Cymru, arbenigwyr a’r cymunedau eu hunain, i gael darlun llawnach o sut y mae lles yn edrych yn yr ardal. Cyfarfu swyddogion o aelod-sefydliadau’r BGC yn rheolaidd i gytuno sut i gynhyrchu’r Asesiad, gan fanteisio ar y dysgu o’r rownd ddiwethaf o Asesiadau i sicrhau bod y dyddiad cau statudol ar gyfer cynhyrchu wedi cael ei fodloni. Roedd llifoedd gwaith hefyd wedi’u sefydlu i ystyried yr elfen dadansoddi a chyflwyno data, y ddogfen Asesu, a’r ffordd orau o ymgysylltu â chymunedau ac arbenigwyr ar y canfyddiadau.
Cafodd yr asesiad lles ei gyhoeddi ar 5 Mai 2022 ac mae’n cael ei ddefnyddio nawr i ddatblygu Cynllun Lles Gwent erbyn a fydd yn cael ei gyhoeddi erbyn Mai 2023.
Diolch yn fawr i’r rhai sydd wedi cymryd amser i roi eu barn a’u cyngor nhw i ni yn ystod y broses hon. Mae’r Asesiad terfynol cymeradwy wedi’i osod isod mewn penodau unigol:
2. Rhagymadrodd
3. Ein dull Gweithredu ar gyfer cynnwys pobl
8. Asesiadau Llesiant Ardaloedd Lleol (gweler isod)
10. Casgliad
……………………………………………………………………………………………………………………………………..
Asesiadau Lles Ardal Leol :
(Saesneg yn unig*)
Blaenau Gwent *- Cwm Sirhowy ; Ebbw Fawr; Ebbw Fach – Uchaf ; Ebbw Fach – Isaf
Caerffili – Basn Caerffili ; Islwyn Isaf ; Canol y Cymoedd Dwyrain; Canol y Cymoedd Gorllewin ; Rhymney Uchaf
Sir Fynwy – Sir Fynwy
Casnewydd – Canol ; Dwyrain ; Gogledd ; Gogledd Dwyrain ; Gogledd Orllewin ; De-orllewin
Torfaen – Blaenafon ; Cwmbran ; Pont-y-pŵl