Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Efallai eich bod chi wedi clywed am Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), ond beth yw ei phwrpas? Yn gryno, ei phwrpas yw gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl Cymru.

O ganlyniad i’r Ddeddf, rhaid i gyfanswm o 44 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru, feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau lleol a gyda’i gilydd, ceisio atal problemau a gweithredu dull mwy cydweithredol yn y dyfodol

Bydd hyn, gobeithio, yn ein helpu i greu Cymru rydyn ni i gyd eisiau byw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu animeiddiad byr sy’n esbonio’r effaith y bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ei chael:


Pa gyrff cyhoeddus mae’r Ddeddf yn eu cynnwys?

  • Gweinidogion Cymru
  • Awdurdodau lleol
  • Byrddau iechyd lleol
  • Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Felindre
  • Awdurdodau parciau cenedlaethol
  • Awdurdodau tân ac achub
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Cyngor Chwaraeon Cymru
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Amgueddfa Cymru

Ble galla i gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)?

Mae crynodeb o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ar gael yma, mewn llyfryn defnyddiol o’r enw ‘Yr Hanfodion’ (PDF)

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)


Dyletswydd Lles

Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus a disgwylir iddynt ei gweithredu. Mae hefyd yn ofyniad cyfreithiol. Mae’r dyletswydd llesiant yn nodi:

Mae’r rhaid i bob corff cyhoeddus sicrhau datblygu cynaliadwy. Yng nghyswllt y Ddeddf hon golyga “datblygu cynaliadwy” y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Cymru trwy weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy a’r diben yw cyflawni’r nodau llesiant.

Mae’n rhaid i ni osod amcanion llesiant sydd wedi’u llunio i gynyddu i’r eithaf ein cyfraniad i gyflawni pob un o’r nodau llesiant ac mae’n rhaid i ni gymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion hynny.