Adroddiad newydd yn nodi sut y gall lleihau anghydraddoldebau greu Gwent decach

Adroddiad newydd yn nodi sut y gall lleihau anghydraddoldebau greu Gwent decach

Mewn ardaloedd ym mhob cwr o Went nid yw pobl yn byw mor hir ag y dylent mewn iechyd da – ac mae partneriaid Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Gwent yn ceisio newid hynny.

Creu Gwent Decach: Gwella Tegwch Iechyd a’r Penderfynyddion Cymdeithasol – nod adroddiad newydd a luniwyd mewn partneriaeth rhwng Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent a Sefydliad Tegwch Iechyd Coleg Prifysgol Llundain – yw lleihau’r bwlch o ran iechyd ar draws y rhanbarth.

crynodeb gweithredol

Canfyddiadau allweddol yr adroddiad:

  • Mae’r plant tlotaf yng Ngwent yn dechrau’r ysgol 10 mis ar ôl plant o deuluoedd mwy cefnog. Mae anghydraddoldebau o ran iechyd a lles sy’n dechrau yn ystod oedran ysgol yn debygol o barhau a dylanwadu ar berson trwy gydol eu hoes.
  • Mae gwelliannau o ran disgwyliad oes wedi arafu ar draws rhannau helaeth o Went.
  • Mae bwlch anghydraddoldeb o 20 mlynedd o ran disgwyliad oes iach rhwng menywod a bwlch o 13 mlynedd rhwng dynion. Mae’r rhain ymhlith y bylchau anghydraddoldeb mwyaf yng Nghymru.
  • Yng Nghasnewydd a Blaenau Gwent, mae poblogaethau’r rhai 65+ oed yn gostwng, naill ai oherwydd gostyngiad yn y boblogaeth neu oherwydd bod disgwyliad oes yn gostwng. Mae disgwyliad oes iach ym Mlaenau Gwent, Casnewydd, Torfaen a Chaerffili hefyd yn is na chyfartaledd Cymru ar gyfer menywod a dynion.

Wrth wneud sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd yr Athro Syr Michael Marmot, Cyfarwyddwr Sefydliad Tegwch Iechyd UCL:

“Os bu angen erioed i lunwyr polisi fabwysiadu agwedd gyffredinol, sy’n gymesur ag angen, yng Ngwent mae hynny. Yn y rhanbarth mae awdurdodau lleol mwyaf difreintiedig a mwyaf cefnog Cymru, ac mae yno  lefelau uchel o dlodi ac amddifadedd ers tro.

“Mae’r adroddiad newydd hwn yn amlygu pwysigrwydd mynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd ar draws y graddiant cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, darparu cyflogaeth deg i bawb a chreu cymunedau cynaliadwy gyda thai o ansawdd da.”

Mae blaenoriaethau allweddol i ysgogi newid yn cynnwys:

  • Sicrhau gwasanaethau cyn-ysgol digonol a theg.
  • Lleihau’r bwlch o ran cyrhaeddiad addysgol.
  • Darparu gwell mynediad i hyfforddiant galwedigaethol a mynediad i addysg ôl-16 oed.
  • Cynyddu cyfleoedd o ran hyfforddiant a chyflogaeth.
  • Gwasanaethau prawfesur tlodi ledled Gwent.
  • Gweithio i wella ansawdd tai a’u hargaeledd.
  • Sicrhau bod gwasanaethau presennol yn cael eu darparu’n deg.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent: “Mae cyhoeddi Creu Gwent Decach: Gwella Tegwch Iechyd a’r Penderfynyddion Cymdeithasol yn ysgytwad i Went ac yn dangos fod angen cymryd camau ar y cyd i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau o ran penderfynyddion cymdeithasol iechyd. Mae adroddiad Gwella Tegwch Iechyd yn dangos bod yn rhaid inni drin pobl â thegwch, ac mae’n cydnabod nad ydym i gyd yn dechrau o’r un lle a bod yn rhaid inni gydnabod anghydbwysedd a gwneud newidiadau.

Mae’n hollbwysig bod BGC Gwent, arweinwyr cymunedol, a thrigolion yn dod at ei gilydd i ddatblygu a gweithredu strategaethau cynhwysfawr yn seiliedig ar yr argymhellion sy’n hyrwyddo tegwch, gwella mynediad at adnoddau, a chreu Gwent decach ac iachach i bawb.

Drwy fynd i’r afael â’r pethau sylfaenol sy’n achosi’r gwahaniaethau yma, gall Gwent baratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol mwy cynhwysol a llewyrchus i’w thrigolion.”

Dywedodd yr Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:  Mae’r adroddiad Gwent Decach yn ein cyfarwyddo i achub ar y cyfle i weithio gyda’n cymunedau, i adeiladu ar y cryfderau a chanfod beth sydd ei angen ar gymunedau er mwyn helpu i wella iechyd. Nid yw’n iawn bod iechyd pobl yn cael ei bennu gan ble maent yn byw, ac mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fyw, gydol eu hoes, heb iechyd gwael y gellir ei atal. Mae’r adroddiad pwysig hwn yn rhoi rheidrwydd arnom i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chreu cymdeithas decach i BAWB.

Beth sy’n digwydd nesaf

Yr hyn fydd yn digwydd nesaf yw y bydd partneriaid BGC Gwent yn ystyried yr argymhellion ac yn datblygu camau gweithredu lleol, yn seiliedig ar yr adroddiad, a fydd yn cael eu cyflawni ledled Gwent.

 

DIWEDD

Gwybodaeth Bellach

Sefydliad Tegwch Iechyd (IHE)

Mae Sefydliad Tegwch Iechyd (IHE) UCL yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar leihau anghydraddoldeb a bregusrwydd strwythurol er mwyn cyflawni tegwch iechyd. Fe’i sefydlwyd gan yr Athro Syr Michael Marmot a’i gydweithwyr, a gynhaliodd yr Adolygiad yn 2010. Mae’r IHE yn dadlau dros fynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd ac anghydraddoldebau hiliol, gan bwysleisio’r angen am well data. I gael rhagor o wybodaeth defnyddiwch y ddolen a ddarperir Hafan – IHE (instituteofhealthequity.org)

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent (BGC)

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent (BGC) yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu’n effeithiol yn ardal Gwent. Mae’r BGC yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn ardaloedd awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, a Thorfaen.  Mae’r BGC yn chwarae rôl lywodraethu wrth reoli a goruchwylio’r ddarpariaeth o’r gwasanaethau yma. I gael rhagor o wybodaeth defnyddiwch y ddolen a ddarperir Hafan – Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent (gwentpsb.org)

 

Creu Gwent Decach

I gael rhagor o wybodaeth defnyddiwch y ddolen a ddarperir Creu Gwent Decach

 

Cyswllt Allweddol

Os oes gennych unrhyw ymholiadau e-bostiwch:

Scott Wilson-Evans, Pennaeth Cyfathrebu Strategol ar gyfer Iechyd y Boblogaeth a Chynghorydd Cyfathrebu Strategol BGC Gwent ar gyfer Creu Gwent Decach: Scott.Wilson-Evans@wales.nhs.uk.