Proffiliau aelodau

Member profile photo
Y Cynghorydd Sean Morgan, Cadeirydd, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent
Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae'r Cynghorydd Morgan yn byw yn ei dref enedigol, Nelson, lle mae'n gwasanaethu fel aelod ward lleol.

Cafodd y Cynghorydd Morgan ei addysgu yn Ysgol Gatholig Cardinal Newman yn Rhydyfelin a mynychodd Goleg Ystrad Mynach; mae hefyd wedi ennill nifer o gymwysterau proffesiynol a chymwysterau seiliedig ar waith. Mae'n briod â Joy, ei wraig o 29 mlynedd, ac mae ganddyn nhw ddau o blant sydd wedi tyfu i fyny.

Mae ei yrfa wedi bod yn amrywiol ond mae wedi canolbwyntio’n bennaf ar adnewyddu eiddo masnachol er mwyn eu defnyddio nhw eto ar gyfer masnachu buddiol. Mae llawer o’r busnesau bach hyn yn parhau i ffynnu ac mae ei ddiddordeb mewn economi, seilwaith a chynaliadwyedd yn deillio o’r gwaith hwn.

Gan ddechrau ei yrfa wleidyddol yn 2012 pan gafodd ei ethol yn aelod ward lleol dros Nelson, mae'r Cynghorydd Morgan wedi gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau ac, yn 2017, daeth yn aelod o’r Cabinet ac yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor.

Yn aelod gweithgar o fewn ei gymuned leol, mae'r Cynghorydd Morgan yn aelod o Gyngor Cymuned Nelson ac mae hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Rheoli Canolfan Gymunedol Nelson. Mae gan y Cynghorydd Morgan gysylltiadau gwaith agos â'r heddlu lleol, cymdeithasau rhandiroedd, ysgolion lleol a chlybiau chwaraeon lleol. Mae’r Cynghorydd Morgan i’w weld yn y pentref yn rheolaidd ac mae hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl drwy Facebook gyda’i “NELSON UPDATES” rheolaidd.

Mae’n feiciwr a rhedwr brwd ac yn mwynhau gwyliau gwersylla teuluol yn Ewrop a chymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon awyr agored.


Member profile photo
Huw Jakeway MSc FIFireE, Is-Gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent
Prif Swyddog Tân - Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Ymunodd Huw â'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn 1990, ac mae wedi gweithio ym mhob rheng ac adran y Gwasanaeth. Ychydig ar ôl datganoli'r cyfrifoldeb am y gwasanaeth tân ac achub i Lywodraeth Cymru, cafodd Huw ei secondio yn 2005 i weithio i Lywodraeth Cynulliad Cymru fel Cynghorydd Polisi, Gweithredol a Thechnegol.

Penodwyd Huw yn Brif Swyddog Tân Cynorthwyol yn 2009, ac roedd ei bortffolio yn cynnwys y Fflyd a Pheirianneg, Arloesi a Gwella, Iechyd a Diogelwch, Prosiectau Arbennig, Cydnerthedd a Chynllunio, a Datblygu ac Adolygu.

A 14 Mawrth 2011, penodwyd Huw yn Ddirprwy Brif Swyddog Tân, ac yn Gyfarwyddwr Cyflawni Gwasanaethau gan arwain ym meysydd Gweithrediadau, Lleihau Risgiau, Rheoli Tannau a Rheoli Perfformiad. Yn rhinwedd y swydd hon, roedd Huw yn arwain y gwaith o gyd-drafod â'r gweithlu ar ran y Gwasanaeth.

Ar 1 Rhagfyr 2011, daeth Huw yn Brif Swyddog Tân Gweithredol, a chadwodd ei gyfrifoldebau. Fel Cyfarwyddwr Lleihau Risgiau, roedd yn arwain ym meysydd Diogelwch Tân a Phartneriaethau Cymunedol, Diogelwch Tân Deddfwriaethol a Rheoli Perfformiad.

Ar 28 Medi 2012, penodwyd Huw yn Brif Swyddog Tân gan Awdurdod Tân ac Achub De Cymru.

Yn 2005, enillodd Huw radd MSc mewn Rheolaeth Gyhoeddus ym Mhrifysgol Morgannwg, a chwblhaodd Raglen Arweinyddiaeth Weithredol y Gwasanaeth Tân ac Achub yn Ysgol Fusnes Warwick yn 2010.

Fel aelod o'r Grwp Arweinyddiaeth ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus yn 2013, cafodd Huw y gwaith o wella rhannu data a gwybodaeth ledled Cymru gan y Gweinidog oedd yn gyfrifol am wasanaethau cyhoeddus bryd hynny. Mae hyn wedi arwain at dros 46 o Arweinyddion Gwasanaethau Cyhoeddus yn llofnodi'r addewid gan arweinyddion, sy'n arwydd o'u cefnogaeth hwy a'u sefydliad i'r gwaith o annog rhannu gwybodaeth a data personol mewn modd cyfreithlon, teg, cytbwys a diogel.


Member profile photo
Pam Kelly
Prif Gwnstabl - Heddlu Gwent

Ymunodd y Prif Gwnstabl, Pam Kelly â Heddlu Gwent o Heddlu Dyfed Powys yn 2017 fel Dirprwy Brif Gwnstabl.

Mae wedi treulio'r rhan fwyaf o'i 25 mlynedd o wasanaeth yn yr Adran Ymchwilio Troseddol, gan ymdrin â materion plismona cudd, gwarchod y cyhoedd a safonau proffesiynol.
Dechreuodd gyrfa Pam yn y gwasanaeth heddlu fel gwirfoddolwr yn yr Heddlu Gwirfoddol cyn dod yn swyddog arferol yn Heddlu Dyfed Powys ym 1994.

Mae gan Pam gefndir gweithredol cadarn ar ôl treulio tua 10 mlynedd fel Uwch Swyddog Ymchwilio, yn arwain achosion llofruddiaeth, dynladdiad, treisio a throseddau difrifol a chyfundrefnol, ar draws Cymru a thu hwnt.

Mae Pam yn frwd dros ddiogelu pobl fregus ac yn ystod y 1990au treuliodd amser ar secondiad gydag Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, gyda'r dasg o arolygu gweithdrefnau amddiffyn plant heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn dilyn marwolaeth drasig Victoria Climbie.

Chwaraeodd Pam rôl allweddol yn yr Arolygiaeth yn gwella safonau amddiffyn plant ledled y DU.
Pam oedd awdur plismona cyntaf gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan a chwaraeodd ran allweddol yn rhoi'r Trefniadau Amlasiantaeth ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd ar waith o ran rheoli troseddwyr rhyw a throseddwyr peryglus ar draws y DU.

Yn 2011, chwaraeodd Pam ran allweddol fel Uwch Reolwr Adnabod, yn adfer dinasyddion Prydeinig a fu farw ar ôl y swnami yn Japan, yn ogystal â damweiniau awyren yn Afghanistan a Tripoli. Mae Pam wedi hyfforddi fel Comander Arfau Tanio, Comander Trefn Gyhoeddus a Thrafodwr Gwystlon hefyd.


Member profile photo
Christina Harrhy
Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Ymunodd Christina â Thîm Rheolaeth Gorfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2015 fel Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau, wedi dros 25 mlynedd o brofiad ym maes llywodraeth leol, cyn cychwyn gweithio fel Prif Weithredwr Dros Dro yn Ionawr 2018.

Magwyd Christina yng Nghaerffili ac fe'i haddysgwyd hi yn Ysgol Genethod Lewis, Ystrad Mynach, cyn astudio i ddod yn Beiriannydd Sifil Siartredig a Chymrawd Sefydliad y Peirianwyr Sifil a Chymrawd Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant.

Cychwynnodd ei gyrfa gynnar yng Nghyngor Sir Morgannwg Ganol fel Technegydd ac yna fel Arolygydd Priffyrdd. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol, ymunodd â Chyngor Caerffili fel Peiriannydd Cynorthwyol. Yn ddiweddarach, ymunodd â Chyngor Sir Torfaen a bu yno am 14 mlynedd a gwnaeth nifer o swyddi rheoli cyn dod yn Gyfarwyddwr.

Yn 2010, penderfynnodd Christina ehangu ei gorwelion a chychwyn astudio am radd arall, Gradd Meistr y tro hwn mewn Gweinyddu Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn teithio i'r Unol Daleithiau i astudio Arweinyddiaeth, ym Mhrifysgol glodfawr Harvard yn Boston.

Yn dilyn ennill ei gradd Meistr, ac ychwanegu at ei gwybodaeth a'i phrofiad eithriadol, mae Christina wedi datblygu ac arwain timau sy'n perfformio'n rhagorol ac wedi datblygu rhaglen gradd Meistr arobryn, arloesol a seiliedig ar werthoedd ym maes Arweinyddiaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. I gydnabod llwyddiant y rhaglen, a'i chyfraniad cyffredinol at arweinyddiaeth ym maes gwasanaethau cyhoeddus, cyflwynwyd Gwobr Arweinydd y Dyfodol Arwain Cymru iddi hi yn 2011.

Mae Christina yn byw yn Sir Fynwy gyda'i gŵr a'i merch, ac yn ei hamser hamdden, bydd yn mwynhau teithio a beicio.


Member profile photo
Y Cynghorydd Stephen Thomas
Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Etholwyd Steve i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent am y tro cyntaf ym 1999 fel aelod Ward Canol a Gorllewin Tredegar. Yn 2004 daeth yn aelod Gweithredol dros dai ac ers hynny mae wedi dal nifer o swyddi gweithredol, gan gynnwys Hamdden, yr Amgylchedd a Llywodraethu.

Daeth yn arweinydd Blaenau Gwent gyntaf rhwng Rhagfyr 2015 a Mai 2017. Yn fwy diweddar, ef oedd arweinydd yr wrthblaid a Chadeirydd Craffu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol.

Yn ystod y blynyddoedd ‘caledi’, cydnabuwyd Steve fel y grym gwleidyddol y tu ôl i strategaeth trawsnewid newid llwyddiannus Blaenau Gwent, o ganlyniad i fethiannau llywodraethu ac addysg yn 2011/12.

Cyn cael ei ethol i'r Cyngor, bu Steve yn gweithio yn y diwydiant dur ac yn ddiweddarach ym maes dylunio graffeg. Mae'n byw yn Nhredegar gyda'i wraig a'i ferch. Mae ei ddiddordebau yn cynnwys theatr, chwaraeon a ffotograffiaeth; mae hefyd yn ddarllenwr brwd.


Member profile photo
Damien McCann
Prif Weithredwr Dros Dro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Damien yw Prif Weithredwr Dros Dro Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Ymunodd â'r Cyngor ym mis Ionawr 2008 ac mae wedi treulio'r 6 blynedd diwethaf fel Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol. Cyn hynny, bu’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am 16 mlynedd lle bu’n dal rolau uwch-reoli yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai.

Mae ei rôl fel Prif Weithredwr Dros Dro yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled de-ddwyrain Cymru gan gynnwys Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir yng Ngwent. Mae Damien wedi cadeirio nifer o fyrddau Gwent gyfan gan gynnwys Bwrdd Diogelu Plant De-ddwyrain Cymru a Bwrdd Gofalwyr Gwent ar gyfer y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent.

Mae Damien hefyd wedi gweithio mewn rôl uwch-reoli o fewn sefydliad trydydd sector yn darparu cymorth i bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn ardaloedd Caerdydd, y Fro a Phen-y-bont ar Ogwr.


Member profile photo
Y Cynghorydd Steve Bradwick
Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

Member profile photo
Y Cynghorydd Anthony Hunt
Arweinydd, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen

Cafodd Anthony ei ethol yn Gynghorydd am y tro cyntaf yn 2012, gan wasanaethu ward Panteg.

Cafodd Anthony radd yn y gyfraith o Brifysgol Caerdydd a threuliodd amser yn gweithio yn America cyn dychwelyd i Gymru. Ac yntau’n fab i nyrs a swyddog yr heddlu, mae Anthony yn dweud mai ei reswm dros fynd i fyd gwleidyddiaeth yw ei angerdd dros wasanaethau cyhoeddus rheng flaen a’i ddymuniad i ddiogelu’r gwasanaethau hynny.

Cyn cael ei ethol i’r Cyngor, cafodd Anthony gyfoeth o brofiad ar bob lefel o lywodraeth, gan dreulio amser yn gweithio yn Nhorfaen, yn y Senedd, yn Whitehall ac yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bu’n gweithio gyda chyn Aelod Seneddol Torfaen, Paul Murphy, fel ymchwilydd ac yna roedd e'n Gynghorydd Arbennig yn ystod cyfnod Paul fel Ysgrifennydd Cymru ac Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, gan feithrin dealltwriaeth o ddatganoli a’r berthynas rhwng y gwahanol lefelau o lywodraeth.

Bu hefyd yn gweithio'n agos gyda Paul yn yr etholaeth, gan fynd i'r afael â materion ar ran etholwyr a chael dealltwriaeth o ddyletswyddau cynrychioliadol lleol gwleidyddion etholedig.

Yn y Cyngor, gwasanaethodd Anthony fel Aelod Gweithredol dros Adnoddau cyn cael ei ethol yn Ddirprwy Arweinydd yn 2015 ac yn Arweinydd ym mis Rhagfyr 2016.

Ar sail ranbarthol a chenedlaethol, mae Anthony yn cadeirio Cyd-Gabinet Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn eistedd ar Fyrddau Dinas-Ranbarthau’r Cymdeithas Llywodraeth Leol ac yn Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Adnoddau.

Y tu allan i fyd gwleidyddiaeth, mae Anthony yn feiciwr cystadleuol gyda Chlwb Beicio Heol Pont-y-pŵl ac yn gwirfoddoli fel hyfforddwr pêl-droed iau gyda Chlwb Pêl-droed Griffithstown. Yn gefnogwr brwd o gerddoriaeth (yn enwedig Bruce Springsteen) a’r celfyddydau, mae hefyd wedi gwirfoddoli mewn digwyddiadau o Ŵyl Ynys Wydrin i Theatr y Congress yng Nghwmbrân.

Mae Anthony yn llywodraethwr ysgol yn Ysgol Gynradd Griffithstown ac yn byw yn Griffithstown gyda'i wraig a dau o blant.


Member profile photo
Stephen Vickers
Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen

Daeth Stephen yn Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Torfaen ym mis Gorffennaf 2021.

Cyn hynny, roedd Stephen yn Gyfarwyddwr Oedolion a Chymunedau ac yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yng Nghyngor Swydd Henffordd, a chyn hynny, bu’n dal uwch rolau ym maes gofal cymdeithasol a diogelu yng Nghyngor Sir Gaerlŷr a Chyngor Dinas Caerlŷr.

Roedd Stephen yn newydd-ddyfodiaid i ofal cymdeithasol a llywodraeth leol ar ôl hyfforddi fel peiriannydd. Ar ddechrau ei yrfa, bu Stephen yn gweithio mewn nifer o rolau a diwydiannau gwahanol gan gynnwys rheoli sawl busnes lletygarwch, yn ogystal â chyfnodau yn y sectorau manwerthu ac ymgynghori. Teithiodd Stephen hefyd yn helaeth a bu'n byw dramor am nifer o flynyddoedd.

Meddai Stephen, “Cefais fy nenu i mewn i lywodraeth leol am resymau personol iawn oherwydd gofal aelod agos o’r teulu a oedd, yn anffodus, mor annigonol nes iddo fy ngorfodi i gychwyn ar yrfa newydd ym maes gofal cymdeithasol. Es yn ôl i'r brifysgol yn 29 oed i astudio ac ennill fy ngradd mewn gwaith cymdeithasol. Gan arbenigo mewn iechyd meddwl, gallu meddyliol a diogelu fel gweithiwr cymdeithasol, symudais i yn gyflym i rolau rheoli a dod yn Gyfarwyddwr Oedolion a Chymunedau yn Swydd Henffordd cyn ymuno â Chyngor Torfaen.

“Wrth gael fy magu fel rhan o deulu ar ystâd gyngor fawr yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Caerlŷr, rydw i’n gwybod yn iawn pa mor anodd y gall fod i dorri i ffwrdd o’r ‘norm’ a dyheu a chredu mewn rhywbeth gwell. Rydw i wir yn credu y gall unrhyw un gyrraedd ei botensial gyda phenderfyniad, nod a’r cymorth cywir, ac rydyn ni i gyd yn haeddu’r cyfle. Rydw i’n edrych ymlaen at wneud Torfaen yn fan lle mae plant yn cael eu hysbrydoli i gyflawni, lle gall pobl ennill sgiliau newydd i wella neu newid eu bywydau er gwell ac i adeiladu perthnasoedd newydd gyda chymunedau.”


Member profile photo
Y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby
Arweinydd, Cyngor Sir Fynwy

Mary Ann yw Arweinydd Cynghorydd Sir Fynwy ac fe’i hetholwyd ym Mai 2022. Mae’n Lefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Newid Hinsawdd a Chyfiawnder Cymdeithasol ac mae’n Is-Gadeirydd ar Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac yn gyfrifol am Arloesi ac Ymchwil. Etholwyd Mary Ann yn gynghorydd ar gyfer Llanelly, ward gwledig yn Sir Fynwy yn 2022.

Mae Mary Ann yn arbenigo mewn datblygiad rhyngwladol, rhywedd a hawliau dynol. Mae wedi gweithio gyda’r Cenhedloedd Unedig ac asiantaethau Cymorth Rhyngwladol, Banc y Byd a Llywodraethau yn Asia ac Affrica er mwyn cryfhau lleisiau pobl sydd ar yr ymylon.

Yng Nghymru, mae’n Gadeirydd y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, yn gyfarwyddwr Egni Coop sydd yn gyfrifol am fuddsoddi £4m mewn ynni Solar yn lleol ac mae’n gyn-gadeirydd ar Awel Aman Tawe, grŵp ynni cymunedol mwyaf Cymru sydd yn casglu £7m er mwyn sefydlu’r fferm wynt gymunedol gyntaf yng Nghymru.


Member profile photo
Paul Matthews
Prif Weithredwr, Cyngor Sir Fynwy

Mae Paul Matthews wedi bod yn was cyhoeddus am y rhan fwyaf o’u bywyd gwaith. Dechreuodd Paul fel Llywodraethwr yn YSGOL UWCHRADD CWMBRÂN, lle’r oedd yn gyfrifol am gyllid, AD, technoleg, a blaengynllunio. Symudodd Paul ymlaen wedyn i Brifysgol Caerdydd, lle bu’n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol . Wedi hynny, daeth yn Gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Fynwy. Yn ei rôl bresennol fel Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy, mae Paul yn gyfrifol am adfywio, diogelwch cymunedol, a gwasanaethau democrataidd y sir.

Mae gan Paul Matthews radd mewn cyfrifeg o Brifysgol De Cymru ac mae’n aelod o Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu. Mae gan Paul hefyd ddiploma mewn arweinyddiaeth weithredol o Ysgol Harvard Kennedy a diploma mewn arweinyddiaeth weithredol o Brifysgol Georgetown.


Member profile photo
Steve Morgan
Pennaeth Gweithrediadau - De Cymru yng Nghyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Mae ganddo radd mewn Sŵoleg gyda Sŵoleg Forol o Brifysgol Bangor ac mae'n Rheolwr Siartredig Dŵr a’r Amgylchedd ac yn Amgylcheddydd Siartredig.
Mae ganddo 27 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector amgylcheddol cyhoeddus (gan gynnwys yr Awdurdod Afonydd Cenedlaethol ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru) a bu'n gweithio am gyfnod byr yn y Gymdeithas Cadwraeth Forol.

Mae Steve yn arwain timau gweithredol De-ddwyrain Cymru (ardal awdurdodau lleol Gwent) yn CNC sydd â chylch gorchwyl eang gan gynnwys cadwraeth, bioamrywiaeth, rheoli tir a dŵr, risg llifogydd, coedwigaeth, rheoleiddio diwydiant, monitro a physgodfeydd. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn sicrhau bod ein hamgylchedd yn cael ei ddiogelu er mwyn i bawb gael ei fwynhau a helpu i wella lles pobl Cymru.

Mae gan Steve gariad am yr awyr agored a phan na fydd yn chwarae sboncen yn ei glwb lleol, fe ddowch o hyd iddo yn cerdded mynyddoedd Cymru gyda'i gamera a'i drybedd wrth law.

Pwrpas Cyfoeth Naturiol Cymru yw gweithio tuag at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn ei holl waith. Mae hyn yn golygu edrych ar ôl aer, tir, dŵr, bywyd gwyllt, planhigion a phridd i wella lles Cymru, a darparu dyfodol gwell i bawb.


Member profile photo
Ann Lloyd CBE
Cadeirydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Mae Ann Lloyd wedi treulio mwyafrif ei gyrfa fel Prif Swyddog Gweithredol sefydliadau gwasanaeth iechyd mawr. Penllanw ei gyrfa oedd ei phenodiad fel Cyfarwyddwr Cyffredinol - Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Llywodraeth Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol GIG Cymru, swydd y bu hi'n ei meddiannu am 8 mlynedd.

Yn gyfrifol am gyllideb o £ 5.8 biliwn a goruchwylio holl bolisïau iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd Cymru, datblygodd y strategaeth 10 mlynedd ar gyfer Cymru, y safonau gofal iechyd a'r Arolygiaeth gysylltiedig, a dylunio ac arwain ailstrwythuro sefydliadau GIG Cymru yn 2002/3 a 2008/9. Hi oedd y Swyddog Cyfrifyddu a oedd yn gyfrifol i Lywodraethau a Seneddau’r DU a Chymru am yr holl faterion a oedd yn effeithio ar lywodraethu a rheolaeth ariannol sefydliadau Cymru.

Meddiannodd swydd Comisiynydd Penodiadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Llundain am 2 flynedd - gan oruchwylio cymhwysedd Byrddau'r GIG a'u swyddogion anweithredol. Cynghorodd a chefnogodd Gadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol GIG Llundain ar y meini prawf llywodraethu ac arwain sy'n ofynnol ar gyfer ad-drefnu cyrff GIG Llundain.

Mae hi wedi bod yn gweithredu fel cynghorydd a hyfforddwr annibynnol ers 2012, gan arbenigo mewn adolygiadau effeithiolrwydd a llywodraethu Bwrdd. Mae hi'n cyflawni Archwiliadau Sgiliau, Datblygiadau'r Bwrdd ac ymchwiliadau arbennig. Yn ddiweddar, mae hi wedi cwblhau adolygiad annibynnol ar gyfer Gweinidog Iechyd Cymru i systemau ymgysylltu ac ymgynghori cynllunio gwasanaethau yng Nghymru i argymell unrhyw newidiadau y dylid eu gwneud ac mae wedi arwain yr adolygiad ymyrraeth wedi'i dargedu ar gyfer Llywodraeth Cymru i mewn i Wasanaethau Iechyd a Bwrdd Gogledd Cymru. Mae hi'n gwerthuso, asesu a hyfforddi swyddogion gweithredol, cadeiryddion a swyddogion gweithredol yn y sectorau cyhoeddus a ddielw, ac mae'n fentor cymwys ac yn hyfforddwr hyfforddedig. Mae hi wedi bod yn Uwch Gydymaith gyda'r Sefydliad Llywodraethu Da ers 2011.

Mae hi'n aelod o Gomisiwn Bevan.


Member profile photo
Nicola Prygodzicz
Prif Weithredwr - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dechreuodd Nicola weithio yn y GIG ym 1991 fel Rheolwr Cyllid dan Hyfforddiant. Ers iddi gymhwyso ym 1995 fel Cyfrifydd Siartredig gyda CIPFA, mae Nicola wedi gweithio mewn nifer o rolau cyllid uwch ledled De Cymru, gan gynnwys 16 mlynedd yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Ar ôl ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn 2014, i ddechrau fel Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol, datblygodd Nicola yn gyflym i gael ei phenodi i rôl Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio, Digidol a TG yn 2015 ac yn fwy diweddar, ymgymerodd â'r rôl Ddirprwy Brif Weithredwr.
Arweiniodd Nicola y Rhaglen Ddyfodol Glinigol ar draws ardal y Bwrdd Iechyd ac agoriad Ysbyty Athrofaol y Faenor yn 2020. Mae’n angerddol am welliant parhaus gwasanaethau a sicrhau bod y claf a’r cyhoedd wrth galon ein cynllunio. Mae Nicola hefyd yn eiriolwr cryf dros ddatblygiad personol a hyfforddiant i sicrhau bod gan staff yr adnoddau a’r cymhelliant da i gyflawni’r heriau o weithio i’r GIG.

Penodwyd Nicola yn Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd ym mis Medi 2022.
Yn falch o weithio a byw yng Nghymru, mae Nicola yn mwynhau treulio amser gyda'i theulu a'i ffrindiau.


Member profile photo
Y Cynghorydd Jane Mudd
Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd

Mae'r Cynghorydd Jane Mudd wedi bod yn Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ers 2019, ac yn Gadeirydd G10 ers hynny, gan arwain ei ddatblygiad tuag at Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol. Mae Jane yn awyddus i barhau fel Cadeirydd ar gyfer cam cyntaf Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent ar ei newydd wedd i helpu ei barhad drwy'r cyfnod pontio hwn wrth i'r Cynllun Lles rhanbarthol newydd gael ei ddatblygu. Ar lefel leol, mae Jane hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Casnewydd yn Un. A hithau'n aelod o Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a deiliad portffolio Dysgu, Sgiliau a Thalent, mae Jane hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd partneriaeth economaidd drawsffiniol, Porth y Gorllewin.

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad ym myd addysg uwch ac ymchwil mewn Polisi Cymdeithasol, mae hefyd gan Jane gefndir ym meysydd Tai ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Roedd hi'n Bennaeth yr Adran Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar ôl arwain yr Adran Gwyddorau Cymunedol Cymhwysol a Diogelwch y Cyhoedd ac mae'n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. A hithau'n Gymrawd y Sefydliad Tai Siartredig ac yn Gyn-gadeirydd Sefydliad Tai Siartredig Cymru, mae hi hefyd yn aelod annibynnol o'r Bwrdd Rheoleiddio Tai (Cymru) ac yn Gyn-gadeirydd Bwrdd Cartrefi Dinas Casnewydd.

Mae Jane hefyd yn Ddirprwy Lywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (y Gymdeithas). Ar hyn o bryd, mae hi'n cynrychioli awdurdodau lleol Gwent ar Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel y Gymdeithas a hi hefyd yw Llefarydd Cydraddoldeb y Gymdeithas. A hithau'n un o Gyfarwyddwyr Data Cymru, mae'r Cynghorydd Mudd hefyd yn Llefarydd y Gymdeithas dros y meysydd Digidol ac Arloesi. Mae Jane bob amser wedi bod yn weithgar yn y gymuned, fel gwirfoddolwr, llywodraethwr ysgol, ymddiriedolwr elusen ac aelod bwrdd mewn amrywiaeth o sefydliadau. Yn 2016, cafodd Jane wobr Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu am weithio mewn partneriaeth yn sgil ei chyfraniad i brosiect lleol.


Member profile photo
Beverly Owen
Prif Weithredwr, Cyngor Dinas Casnewydd

Mae gan Beverly radd mewn Tai ac Adfywio a thros 20 mlynedd o brofiad ym myd llywodraeth leol mewn amrywiaeth o uwch rolau. Ar ôl arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno nifer o raglenni adfywio economaidd a chymdeithasol mawr yn ne-ddwyrain Cymru, cafodd Beverly ei phenodi'n Brif Weithredwr Cyngor Dinas Casnewydd ym mis Gorffennaf 2020.

Gydag angerdd am dwf economaidd wedi'i danategu gan gynaliadwyedd a chymunedau cydnerth, mae Beverly yn parhau i oruchwylio'r portffolio adfywio yng Nghasnewydd. Yn flaenorol, roedd Beverly yn Gyfarwyddwr sefydlu Bwrdd Ffowndri Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac, ar hyn o bryd, mae'n Gyfarwyddwr penodedig y Cyngor ar gyfer Cwmni Eiddo Cyd-fenter Norse Casnewydd.


Member profile photo
Yr Athro Tracy Daszkiewicz
Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dechreuodd Tracy fel Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus y Bwrdd Iechyd ym mis Ebrill 2023.

Mae ganddi fwy na 25 mlynedd o brofiad yn gweithio gydag iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y GIG, Gwasanaeth Sifil, Llywodraeth Leol a’r Sector Gwirfoddol. Mae gan Tracey hanes ym maes trawsnewid, newid system, a datblygu gwasanaethau i fodloni gofynion pobl leol. Roedd Tracy hefyd yn Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Wiltshire yn ystod cyfnod y gwenwyno â chemegyn nerfol yn Salisbury, datblygodd hyn ei diddordeb yn rôl iechyd cyhoeddus mewn adferiad dyngarol. Dyma destun ei hymchwil PhD.

Mae Tracy hefyd yn Is-lywydd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd. Yn Athro Gwadd ym maes Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr lle mae ganddi hefyd Ddoethuriaeth Anrhydedd am ei chyfraniadau i faes Iechyd Cyhoeddus, mae ganddi radd o’r Brifysgol Agored hefyd. Mae hi’n ddarlithydd gwadd ym maes Diogelu Iechyd ym Mhrifysgol Caerwysg. Mae’n eistedd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Elusen Camdrin Domestig lleol.

“Rwy’n frwd dros leihau bregusrwydd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Wrth i Went ddod yn Rhanbarth Marmot cyntaf Cymru, rwyf wrth fy modd yn ymuno â’r Bwrdd Iechyd i arwain y Tîm iechyd Cyhoeddus.

“Mae effaith incwm isel, ansefydlogrwydd swyddi, tai gwael a bod yn ynysig ar ein hiechyd yn anfesuradwy. Fy uchelgais ar gyfer Gwent yw lleoedd iachach, diogelwch, hawl i addysg ragorol, cartrefi cynnes, ffyniant, a chysylltiad cymunedol. Y blociau adeiladu hyn ar gyfer bywyd iachach a thecach yw’r hyn y mae gwaith Adeiladu Gwent Tecach yn ei hyrwyddo.

“Yn fyr, rwy’n credu y dylai pob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd ac fel oedolyn lle mae gan bawb swydd, cartref a ffrind. Gyda’n gwaith â’r Tîm Iechyd Cyhoeddus a gyda’n partneriaid ledled Gwent, rwy’n edrych ymlaen at gynorthwyo pobl Gwent i fyw bywyd gwell a byw’n hirach.”


Member profile photo
Louise Bright
Cyfarwyddwr Gweithredol Ymgysylltu a Menter, Prif Ysgol De Cymru

Tra oedd hi ar secondiad i Lywodraeth Cymru, ymgymerodd Louise ag astudiaeth ar sut gallai'r Llywodraeth weithio gyda phrifysgolion Cymru i gynyddu lefelau incwm cynghorau ymchwil. Roedd canlyniadau'r astudiaeth yn sail i adroddiad a gafodd ei gymeradwyo gan Weinidog gyda goblygiadau polisi. Yn ystod ei secondiad roedd hi hefyd yn gyfrifol am ddrafftio cynnig i sefydlu Academi Wyddoniaeth Genedlaethol i Gymru. Cafodd hwn ei gymeradwyo ac aeth Louise ymlaen i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar sail ymgynghori gan gynnwys prosiectau ar gyflawni'r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol a Pholisi Arloesedd Llywodraeth Cymru.

Louise oedd Cyfarwyddwr Cyswllt y Sefydliad Arweinyddiaeth ar gyfer Addysg Uwch gyda chyfrifoldeb am Gymru. Roedd y rôl hon yn adeiladu ar ei phrofiad o ddatblygu myfyrwyr ymchwil ac academyddion i ddod yn ymchwilwyr effeithiol.

Mae Louise yn adolygydd cymheiriaid ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil ac roedd hi'n aelod o Grŵp Gorchwyl a Gorffen Prif Gynghorydd Gwyddoniaeth Cymru a lywiodd adroddiad ar fenywod mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Meddygaeth yng Nghymru. Mae Louise hefyd yn arwain Rhwydwaith Menywod Cymru mewn STEM ac yn aelod o Fwrdd Cydraddoldeb mewn STEM Llywodraeth Cymru.


Member profile photo
Jeff Cuthbert MCIPD
Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent

Ganwyd Jeff yng Nglasgow, a symudodd i Gaerdydd gyda'i rieni, ac yno, cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Fodern yr Eglwys Wen. Enillodd Radd mewn Peirianneg Mwyngloddio yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd

Cychwynnodd Jeff ei yrfa yn y diwydiant mwyngloddio, ac yn ddiweddarach, gweithiodd i Gydbwyllgor Addysg Cymru fel Pennaeth yr Uned Ased i'r Diwydiant.

Yn flaenorol, roedd yn aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Cae'r Drindod, y Llys ym Mhrifysgol Caerdydd a Bwrdd Rheolwyr Coleg Ystrad Mynach. Mae Jeff yn un o Aelodau Corfforaethol Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.

Etholwyd Jeff yn aelod o'r Cynulliad am y tro cyntaf yn 2003.

Cyn ei benodi yn Ddirprwy Weinidog dros Sgiliau ym Mai 2011, gwasanaethodd Jeff fel Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglen Cronfeydd Strwythurol Cymru Gyfan. Sefydlodd a chadeiriodd y Grŵp Trawsbleidiol ynghylch yr Amgylchedd Adeiledig, y Grŵp Trawsbleidiol ynghylch Byw yn Iach, y Grŵp Trawsbleidiol ynghylch Diabetes, a chydsefydlodd a chydgadeiriodd y Grŵp Trawsbleidiol ynghylch Cwrw a Thafarnau. Roedd hefyd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Cadeiriodd Jeff y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ac mae wedi bod yn aelod o'r Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol, y Pwyllgor Menter a Dysgu, a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Ym Mai 2013, penodwyd Jeff yn Weinidog dros Gymunedau a Threchu Tlodi. Gwnaeth y gwaith hwn tan fis Medi 2014, ac yn ystod ei gyfnod wrth y gwaith, cyflwynodd Fil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Etholwyd Jeff yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent ym Mai 2016 am gyfnod o bedair blynedd.

Mae Jeff yn aelod o Undeb UNITE a bu'n gydlynydd grwp UNITE o Aelodau Cynulliad Llafur cyn cael ei benodi gan Brif Weinidog Cymru yn Ddirprwy Weinidog dros Sgiliau.


Member profile photo
Sian Curley
Y Prif Weithredwr, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

Mae Siân Curley wedi bod yn Brif Weithredwr ers mis Ionawr 2016. Siân sy'n gyfrifol am reoli Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu (Swyddfa'r Comisiynydd) a'i staff o ddydd i ddydd. Mae hi'n darparu arweinyddiaeth a chyfarwyddyd, cyngor a chymorth o safon uchel i'r Comisiynydd, i sicrhau ei fod yn bodloni ei ddyletswyddau statudol, amcanion strategol ac anghenion y cyhoedd. Mae hi'n gyswllt allweddol rhwng Swyddfa'r Comisiynydd a Heddlu Gwent hefyd, gan gynnwys y Prif Gwnstabl, yn ogystal ag asiantaethau partner. Fel Prif Weithredwr, Siân yw Pennaeth Gwasanaethau y Telir Amdanynt a'r Swyddog Monitro, sy'n swyddogaethau statudol.

Mae gan Siân radd Meistr mewn Arweinyddiaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus a gradd Baglor mewn Ffrangeg, Sbaeneg ac Astudiaethau Cyfreithiol.

Yn y gorffennol mae Siân wedi gweithio i Awdurdod Heddlu Gwent, Cyngor Dinas Casnewydd a Choleg Prifysgol Cymru Casnewydd (sydd bellach yn rhan o Brifysgol De Cymru). Mae wedi gweithio ym meysydd llywodraethu corfforaethol, gwasanaethau democrataidd, cwynion a materion ymddygiad, a rheoli newid.

Ar hyn o bryd Siân yw Is-gadeirydd Cymdeithas Prif Weithredwyr Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, y corff proffesiynol sy'n cynrychioli prif weithredwyr swyddfeydd comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru a Lloegr.


Member profile photo
Anne Evans
Swyddog Gweithredol Strategol, Cynghrair Gwirfoddol Torfaen

Anne yw Swyddog Gweithredol Strategol y Cyngor Gwirfoddol Sirol yn Nhorfaen. Cynghrair Gwirfoddol Torfaen (TVA).

Ymunodd Anne â Chynghrair Gwirfoddol Torfaen 20 mlynedd yn ôl, gan ddechrau fel gwirfoddolwr, a chafodd gyflogaeth barhaol gan symud ymlaen trwy'r rhengoedd i'r presennol, gan gwblhau gradd mewn Arwain a Rheoli ar hyd y ffordd.

Mae Cynghrair Gwirfoddol Torfaen yn bartner Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Partneriaeth sy’n cynnwys yr 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol ledled Cymru ynghyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).

Mae Cynghrair Gwirfoddol Torfaen yn gweithio tuag at bedwar prif faes ac yn darparu adroddiadau i Lywodraeth Cymru yn unol â hynny, sef:

- Gwirfoddoli
- Llywodraethu da
- Cyllid cynaliadwy
- Dylanwadu ac ymgysylltu

Mae Anne yn eiriolwr cryf dros weithredu cymunedol a gwirfoddol ac mae hi’n credu mewn arloesi a phartneriaeth, cydweithio er budd pob cymuned, partneriaid statudol, ac asiantaethau eraill.

Mae gan Gynghrair Gwirfoddol Torfaen dîm staff medrus a chymwys iawn sy’n darparu gwasanaethau cymorth i’r Trydydd Sector yn ddyddiol yn unol â’n rôl.


Member profile photo
Diane Dunning
Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru

Yn wreiddiol o'r Alban, daeth Diane i Gymru gyntaf i fynychu Prifysgol Caerdydd i astudio'r Gyfraith. Ar ôl cymhwyso, bu Diane yn gweithio yn ninas Llundain mewn practis preifat yn y maes Cyfraith Rheoleiddio, gan ymgymryd ag erlyniadau mewn materion o ymddygiad proffesiynol yn ymwneud yn bennaf â'r proffesiwn meddygol ac uwch swyddogion yr heddlu.

Gan symud i'r sector cyhoeddus, dychwelodd Diane i Gymru i ymuno â'r hyn a oedd, ar y pryd, yn Adran Gyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Diane wedi cynghori Llywodraeth Cymru am yr 20 mlynedd diwethaf ar draws ystod eang o gyfrifoldebau’r Llywodraeth.

Mae gan Diane uwch swydd arweinydd o fewn Llywodraeth Cymru gyda chyfrifoldeb dros arwain staff y Gwasanaethau Cyfreithiol ac am ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel.

Y tu allan i’w rôl gyfreithiol, mae Diane wedi bod yn gweithio ers nifer o flynyddoedd fel llywodraethwr ysgol gyda chyfrifoldeb ychwanegol dros ddiogelu ac anghenion dysgu ychwanegol.

Mae Diane hefyd yn aelod o bwyllgor Cyfraith Gyhoeddus Cymru ac wedi dysgu pynciau cyfreithiol i fyfyrwyr rhan-amser yn y coleg gyda'r nos.


Member profile photo
Amanda Lewis
Pennaeth Uned Gyflawni Gwasanaethau Prawf Gwent, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi

Gweithredwr Ystafell Reoli yn ateb galwadau 999 i Heddlu De Cymru oedd swydd gyntaf Amanda. Wrth weithio sifftiau yn y swydd hon, ymgymerodd â gwaith gwirfoddol gyda'r Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid, gan fentora plant a oedd mewn perygl o fynd i'r System Cyfiawnder Troseddol fel ffordd o ddargyfeirio. Taniodd y swydd hon ei hangerdd dros waith adsefydlu a rheoli risg i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymunedau.

Yn 2002, gwnaeth Amanda gais am ymuno â'r Gwasanaeth Prawf fel Swyddog y Gwasanaeth Prawf a chychwyn ei swydd ym Mhontypridd fel Swyddog Cyswllt Dioddefwyr. Ar ôl cwblhau hyfforddiant, cymhwysodd fel Swyddog Prawf yn 2005. Tra oedd Amanda yn y swydd hon, gweithiodd fel Swyddog Prawf yn y Llys ac fel rheolwr Troseddwyr yn y gymuned ac yng Ngharchar Ei Mawrhydi y Parc.

Aeth Amanda ymlaen yn ei gyrfa a threulio sawl blwyddyn fel Uwch Swyddog Prawf, ac yna fel Dirprwy Arweinydd mewn Uned Gyflawni Gwasanaethau Prawf fawr yn delio ag Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Pontypridd a Merthyr Tydful. Cyn cychwyn ei swydd bresennol, gweithiodd fel y Dirprwy Arweinydd yng Nghaerdydd a'r Fro. Mae hi wedi treulio'r rhan fwyaf o'i gyrfa yn gweithio yn Ne Cymru ac roedd hi'n falch o gael ei phenodi'n Bennaeth Uned Gyflawni Gwasanaethau Prawf Gwent ym mis Awst 2020. Mae Amanda yn cynrychioli'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ar y 5 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Bwrdd Diogelu Gwent a Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Gwent.


Member profile photo
Stephen Tiley
Prif Swyddog Weithredwr - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent

Stephen yw Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (y Gymdeithas), sef y Cyngor Gwirfoddol Sirol mwyaf yng Nghymru.

Yn 2014, dechreuodd Stephen weithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Yn ystod ei 17 o flynyddoedd yn gweithio i'r Cyngor, gweithiodd Stephen yn bennaf i Adran Gyllid Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar ôl dod yn gyfrifydd cofrestredig trwy Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli, ymunodd â'r Gymdeithas i fod yn Rheolwr Cyllid.

Yn 2016, aeth Stephen ymlaen o'r rôl hon ym maes cyllid i fod yn Ddirprwy Brif Swyddog Gweithredol, lle helpodd weithredu strategaeth y Gymdeithas, a llais y trydydd sector, yn y mentrau Gwasanaeth Cyhoeddus ar draws rhanbarthau Blaenau Gwent a Chaerffili.

Ym mis Ebrill 2020, cafodd Stephen ei benodi'n Brif Swyddog Gweithredol y Gymdeithas ac, wrth wneud hynny, mae wedi ehangu ei gyfrifoldebau blaenorol i yrru'r Gymdeithas, a'i strategaeth, yn eu blaen. Ac yntau'n Brif Swyddog Gweithredol un o'r Cynghorau Gwirfoddol Sirol, mae'n bwysig sicrhau integreiddio'r Gymdeithas, a llais y trydydd sector, yn llawn ym myd Gwasanaeth Cyhoeddus, a'i strwythurau, ar draws rhanbarthau'r Gymdeithas yng Ngwent.

Mae Stephen yn angerddol am gymunedau a'r trydydd sector, ac mae'n sicrhau bod llais y sector yn cael ei glywed, gyda'r awydd a'r nod allweddol i gydweithio â'r holl bartneriaid, ac integreiddio eu gwaith.

Ac yntau'n eiriolwr cryf dros hyfforddiant personol a hunanddatblygiad, ers i Stephen ddod yn gyfrifydd cymwys, mae wedi symud ymlaen i ddod yn Gymrawd y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth drwy gyflawni achrediad Lefel 5 a Lefel 7.

Mae Stephen yn byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili gyda'i wraig, a dau blentyn, ac yn ei amser hamdden mae'n mwynhau teithio, gwirfoddoli fel hyfforddwr pêl-droed, cerdded, chwaraeon a beicio.


Member profile photo
Howard Toplis
Prif Weithredwr, Tai Calon Community Housing Limited

Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, dilynodd Howard yrfa ym maes cyllid i ddechrau. Hyfforddodd, a chymhwysodd, fel cyfrifydd siartredig wrth weithio yn Ernst & Young yn Plymouth. Ar ôl cymhwyso, newidiodd i'r sector tai. I ddechrau, gweithiodd fel rheolwr trysorlys mewn grŵp tai rhanbarthol yn y de orllewin. Yn ystod yr amser hwnnw, ef oedd y cyntaf yn y sector tai i gymhwyso fel Cydymaith Cymdeithas y Trysoryddion Corfforaethol.

Yn 2003, daeth yn Brif Weithredwr Tor Homes, cymdeithas dai yn ne Dyfnaint. Ers hynny, mae wedi cael sawl rôl uwch o fewn cymdeithasau tai. Ymunodd â Tai Calon Community Housing ym mis Ebrill 2020.

Ym marn Howard, dylai pawb gael mynediad at dai fforddiadwy o ansawdd da. Ymhellach, mae'n ei ystyried yn hanfodol bod yn rhaid i breswylwyr fod wrth wraidd popeth a wnawn ni. Mae'r egwyddor honno yr un mor berthnasol i Tai Calon, ac i les ehangach y cymunedau lle rydyn ni'n byw.