Cyfarfodydd
Gallwch chi ddod o hyd i’r holl agendâu a phapurau o bedwar cyfarfod diwethaf y Bwrdd yn y rhesi isod. Lle bo modd, rydyn ni’n darparu papurau cyfarfodydd mewn dau fformat: PDF a HTM. Fodd bynnag, noder bod rhai papurau’n dechnegol iawn a dim ond mewn un fformat y mae modd eu darparu nhw.
Mae’r Bwrdd yn croesawu gohebiaeth gan y cyhoedd, felly, gallwch chi gyflwyno cwestiynau i’r Bwrdd eu hystyried. Noder bod yn rhaid i unrhyw gwestiynau ymwneud â swyddogaethau statudol neu raglen waith y Bwrdd. Pan fydd unrhyw gwestiynau’n ymwneud â gwaith sefydliadau unigol y Bwrdd, ni fydd y Bwrdd yn gallu ymateb. Fodd bynnag, byddwn ni’n anfon y manylion ymlaen i’r sefydliad unigol dan sylw i gael ateb.
Os hoffech chi gyflwyno cwestiwn, cysylltwch â ni ar y dudalen hon.