Grŵp Cyflawni Lleol Bwrdeistref Sirol Caerffili
Transport icon

Y Ffyrdd Rydym yn Symud: Teithio a Thrafnidiaeth

Mae'r strategaeth hon ar ffurf drafft ar hyn o bryd.
Tudalen 1 o 5

Am beth mae’r bennod hon yn sôn?

Mae teithio a thrafnidiaeth yn cynnwys ein teithio personol yn ogystal â chludo nwyddau a gwasanaethau. Mae’n cynnwys teithio llesol (cerdded a beicio), trafnidiaeth gyhoeddus, cynlluniau symudedd a rennir yn ogystal â’r defnydd o gerbydau preifat.

Mae gwasanaethau a materion trafnidiaeth ar draws rhanbarth De-ddwyrain Cymru a thu hwnt yn rhyng-gysylltiedig a rhyng-ddibynnol. Felly, wrth fynd i’r afael â heriau trafnidiaeth ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio â’n Hawdurdodau Lleol cyfagos a’n partneriaid ar lefel ranbarthol gyda threfniadau cyflenwi lleol lle bynnag y bo’n bosibl.

Mae’r uchelgais carbon sero net ar gyfer trafnidiaeth yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag allyriadau drwy dri maes eang o liniaru:

  1. Lleihau’r galw am drafnidiaeth
  2. Newid dulliau teithio
  3. Technoleg a’r defnydd o gerbydau allyriadau sero neu isel.

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae teithio a thrafnidiaeth yn gyfrifol am 156 ktCO2e, sy’n cynrychioli 33% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y Fwrdeistref Sirol. Bydd mynd i’r afael â’r her hon yn galw am gyfuniad o newid ein hymddygiad, deddfwriaeth a thechnoleg. Mae ein teithio personol, yn hytrach na nwyddau a gwasanaethau, yn cyfrif am tua dwy ran o dair o’r holl allyriadau trafnidiaeth. Mae trawsnewid sut rydym yn teithio yn rhoi’r cyfle i greu buddion ehangach ar gyfer ein hiechyd, diogelwch, cyllid a mwynhad o fannau cyhoeddus.

Beth yw’r sefyllfa bresennol?

Mae ceir yn parhau i fod y brif ffynhonnell allyriadau trafnidiaeth, gan gynrychioli 51% (80 ktCO2e). Mae Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV) yn cyfrif am 17% o allyriadau (26 ktCO2e), er eu bod ond yn cyfrif am 4.7% o filltiroedd, mae hyn oherwydd eu dwyster allyriadau uwch (gCO2e/cilomedr).

Type of transport chart

Yn y Fwrdeistref Sirol, mae 0.17% o gerbydau yn rhai trydan neu hybrid, sy’n is na chyfartaledd 0.26% Cymru gyfan,

Mae’r Fwrdeistref Sirol yn elwa o gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gadarn rhwng y gogledd a’r de, a hwylusir gan reilffyrdd Cwm Rhymni a Chwm Ebwy. Mae’n hawdd cyrraedd traffordd yr M4 o dde’r Fwrdeistref Sirol gan ei chysylltu â dinasoedd Caerdydd a Chasnewydd, ac mae’r A465 (Ffordd Blaenau’r Cymoedd), A470 a’r A472 yn helpu i gysylltu trefi o’r dwyrain i’r gorllewin i Ferthyr Tudful a Blaenau Gwent.

Mae fy ngwraig a minnau’n defnyddio’r trên i gymudo i’r gwaith bob dydd: ydy, mae canslo ac oedi yn digwydd, ond ar ôl cymaint o flynyddoedd, gallaf ddweud ei fod yn gweithio’n dda y rhan fwyaf o’r amser.

Mae lefel uchel o gymudo o’r sir, sy’n gysylltiedig â chyfleoedd cyflogaeth yng Nghaerdydd. Mae dibyniaeth uchel ar gerbydau preifat yn y Fwrdeistref Sirol gyda llawer o deithiau ar hyd y cwm yn hwy a llai cyfleus ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae 74% o aelwydydd yn yr ardal yn berchen ar geir, gyda 1.16 o geir fesul aelwyd ar gyfartaledd, sy’n agos i’r cyfartaledd cenedlaethol o 1.17.

Y dyddiau hyn mae gennym yr hyblygrwydd bob amser o weithio gartref pan fydd angen.

Tudalen 2 o 5

Beth ddylai ein cymell?

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn hyrwyddo teithio gwyrddach ac yn ymgysylltu â staff a chleifion:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi llofnodi siarter gyda sefydliadau blaenllaw yng Nghymru i annog teithio cynaliadwy ymhlith staff ac ymwelwyr, gyda’r nod o wella iechyd, lleihau llygredd aer, a lleihau allyriadau carbon. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cefnogi Siarter Teithio Llesol Gwent, gan hyrwyddo cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus. Gan gydnabod bod 82% o bobl yng Nghymru yn poeni am newid yn yr hinsawdd, gydag allyriadau trafnidiaeth yn cael eu nodi fel achos mawr.  Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth gyda staff a chleifion.

Cynghorir staff am gyd-fanteision beicio a cherdded i’r gwaith, sy’n cynnwys lleihau’r risgiau o ganser, clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes math 2, a chwympiadau, a gwell lles. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi gweithio gyda’r Awdurdod Lleol sy’n darparu gwasanaethau bws i safleoedd ysbytai ar gyfer staff a chleifion, gan gynnwys gwasanaeth bws trydan i Ysbyty Athrofaol y Faenor a gwasanaeth bws sy’n ymateb i alw gan Drafnidiaeth i Gymru. Mae cyfle yn y dyfodol i ddefnyddio bysiau hydrogen, ar ôl gael eu cyflwyno’n llwyddiannus yn Abertawe, Sir Benfro a Chastell-nedd.

Yn ogystal, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi partneru ag ap ‘Liftshare’ i hwyluso rhannu ceir ymhlith staff, gosod mannau gwefru cerbydau trydan ar draws safleoedd ysbytai, ac wedi datblygu mannau gweithio ystwyth i leihau teithio gormodol.

Blaenoriaethau Llywodraeth y DU

Cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth Datgarboneiddio Trafnidiaeth – Prydain Well a Gwyrddach yn 2021.  Nododd chwe blaenoriaeth strategol:

  1. Cyflymu newid dulliau teithio i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol
  2. Datrysiadau ar sail lleoedd i leihau allyriadau
  3. Y DU fel hwb ar gyfer technoleg ac arloesedd trafnidiaeth werdd
  4. Datgarboneiddio’r ffordd yr ydym yn cael ein nwyddau
  5. Datgarboneiddio trafnidiaeth ar y ffyrdd
  6. Lleihau carbon yn yr economi fyd-eang

Datblygir hyn drwy:

  • gwella perfformiad ar y rheilffyrdd ac ysgogi diwygiadau i’r system rheilffordd
  • gwella gwasanaethau bysiau a chynyddu’r defnydd ohonynt ledled y wlad
  • trawsnewid seilwaith i weithio i’r wlad gyfan, hybu symudedd cymdeithasol a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol
  • darparu trafnidiaeth wyrddach
  • integreiddio rhwydweithiau trafnidiaeth yn well

Alinio â  Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru

Datblygwyd polisïau trafnidiaeth rhanbarthol i alinio â’r weledigaeth a rennir ac amcanion blaenoriaeth Llwybr Newydd (Strategaeth Drafnidiaeth Cymru), y Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol, a sero net Cymru Llywodraeth Cymru. Mae amryw o strategaethau a chynlluniau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill hefyd wedi llywio eu datblygiad.

Wrth galon cyflawni’r polisïau hyn mae’r defnydd o’r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy i flaenoriaethu dulliau trafnidiaeth cynaliadwy, lle mae angen seilwaith newydd neu welliannau i’r seilwaith presennol.

Gwydnwch Hinsawdd ac Amgylcheddol

Bydd ymyriadau yn helpu i liniaru effaith trafnidiaeth ar yr amgylchedd drwy roi blaenoriaeth i gerbydau sero allyriadau, seilwaith gwefru ac opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy fel dewisiadau amgen gwirioneddol a chystadleuol yn lle cerbydau tanwydd ffosil.

Roeddwn yn cynyddu fy nghamau ac yn arbed y blaned; mae pawb ar eu hennill.

Datgarboneiddio Trafnidiaeth

Mae teithio mewn car yn hanfodol i rai pobl ac mae’n debygol o barhau felly. Gall hyn fod oherwydd namau symudedd, patrymau gwaith neu’r angen i gludo nwyddau swmpus neu drwm. I lawer o bobl, yr unig opsiwn realistig wrth wneud dewisiadau bywyd teuluol cyfleus yw teithio mewn car. Er mwyn annog pobl i symud oddi wrth geir ag un teithiwr, mae angen trawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ac opsiynau teithio cynaliadwy eraill yn sylweddol fel eu bod yn cynnig dewisiadau amgen realistig, deniadol a chystadleuol.

Tudalen 3 o 5

Beth ydym eisiau ei gyflawni?

Mae fflyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi’i nodi fel maes hanfodol o ran cyrraedd targedau sero net. Mae methodoleg strategol wedi’i datblygu i fynd i’r afael â hyn. Mae’r fflyd gyfan yn cael ei hadolygu yn unol â’r fethodoleg hon i sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio i’w effaith fwyaf, gan leihau costau ac allyriadau carbon. Mae’r adolygiad yn edrych ar yr amser y mae pob cerbyd yn weithredol, maint y cerbyd a’r Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEVs) sydd ar gael fel dewisiadau amgen i rai sydd ag injan tanio.

Mae gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata yn chwarae rhan ganolog. Mae data ar filltiroedd, patrymau defnydd, lleoliadau parcio a fframiau amser ar gyfer cerbydau yn enghreifftiau o eitemau data sy’n hanfodol i ddeall yr anghenion a’r cyfleoedd. Caiff mannau gwefru eu harolygu a’u hasesu, gyda chymorth gan wahanol fentrau, gan gynnwys Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae datblygu seilwaith wedi’i rannu’n gamau. Mae gwybodaeth am fflyd, olrhain cerbydau a data telematig, ynghyd ag offer dadansoddi data a modelu data yn cael eu defnyddio i greu amserlen ar gyfer trosglwyddo cerbydau fflyd i Gerbydau Allyriadau Isel Iawn, gan gyflwyno’r seilwaith angenrheidiol.

Mae hyn yn mynd i’r afael â themâu strategol: cynaliadwyedd, effeithlonrwydd gweithredol, ac arloesedd. Mae lleihau allyriadau a gwneud y defnydd gorau o fflyd yn cynorthwyo cynaliadwyedd. Mae’r ffocws ar wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata a datblygu seilwaith yn gwella effeithlonrwydd gweithredol. Mae’r trawsnewid i Gerbydau Allyriadau Isel Iawn a modelu data uwch yn dangos ymrwymiad i gyflawni datrysiadau arloesol.

Lleihau’r galw am drafnidiaeth: Mae defnyddio llai o ynni i gyflawni ein gofynion trafnidiaeth yn dechrau gyda lleihau’r angen i deithio. Dylai hyn gynnwys hybu gweithio o bell, defnyddio siopau a gwasanaethau lleol a chynllunio tai/gweithleoedd newydd ar gyfer mynediad rhwydd at wasanaethau. Ar gyfer teithiau hanfodol, dylem ystyried defnyddio teithio llesol (cerdded a beicio), bysiau a threnau, neu gynlluniau symudedd a rennir, gan gynnwys rhannu ceir. Mae angen i ni hedfan yn llai aml, yn arbennig mewn sefyllfaoedd pan fydd dewisiadau amgen, er enghraifft teithio o fewn Prydain Fawr lle mae dewisiadau amgen ymarferol o ran bysiau a threnau.

Newid dulliau teithio. Mwy o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol: Yn unol ag uchelgeisiau cenedlaethol i leihau’r defnydd o geir, mae gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn hollbwysig ar draws y Fwrdeistref Sirol, yn enwedig o’r dwyrain i’r gorllewin. Dylai hyn gynnwys gwella seilwaith cerdded a beicio a chymell trafnidiaeth gyhoeddus i fod yn gost-effeithlon ac yn fwy deniadol na dewisiadau amgen trwm. Byddai parcio i rannu ceir yn y prif ganolfannau ffyrdd yn help mawr i fentrau rhannu ceir.

Technoleg a’r defnydd o gerbydau sero allyriadau neu allyriadau isel: Bydd y defnydd o gerbydau preifat yn parhau. Ar gyfer y rhain, bydd cerbydau trydan yn lleihau’r galw am ynni a, thrwy gysylltu hyn â datgarboneiddio’r grid, bydd yn lleihau allyriadau CO2.  Mae’n bwysig sicrhau nad yw cerbydau petrol a disel ond yn cael eu disodli gan gerbydau trydan heb ystyried dewisiadau amgen eraill oherwydd mae cerbydau trydan yn parhau i roi pwysau mawr ar adnoddau naturiol. Bydd ymyriadau yn helpu i liniaru effaith trafnidiaeth ar yr amgylchedd drwy flaenoriaethu cerbydau sero net allyriadau, y seilwaith gwefru ac opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy fel dewisiadau amgen real a chystadleuol i gerbydau tanwydd ffosil.

Tudalen 4 o 5

Sut fyddwn ni’n cyflawni hyn?

Yr hyn sy’n ganolog i gyflawni’r polisïau hyn yw’r defnydd o’r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy er mwyn blaenoriaethu dulliau trafnidiaeth gynaliadwy.

Mae gwaith wedi bod yn wych; aberth cyflog ar gyfer y beic, cawodydd ar y safle pan fyddaf yn cyrraedd. Mae’n gyflymach na’r car.

Bydd cydweithrediad a phartneriaeth, gan gynnwys cymunedau lleol, darparwyr addysg, darparwyr trafnidiaeth lleol, cyflogwyr blaenllaw a chynrychiolwyr hygyrchedd yn hanfodol.

Mae symud tuag at ddulliau trafnidiaeth glanach a gwyrddach a mwy cynaliadwy yn galw am:

  1. Blaenoriaethu buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus.
  2. Gwneud gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy fforddiadwy a chyfleus, i alluogi pobl sydd eisiau dewis dulliau amgen cynaliadwy, ac annog newid dulliau teithio o drafnidiaeth breifat.
  3. Galluogi newidiadau i ddulliau teithio pobl, manteisio ar batrymau ymddygiad sy’n newid oherwydd y pandemig COVID-19 a’r angen i weithio a theithio’n wahanol e.e. mwy o weithio gartref.
  4. Datgarboneiddio’r fflyd bysiau yng Nghymru, gan adeiladu ar gyflwyniad llwyddiannus Cerbydau Trydan Batri yng Nghaerdydd a Chasnewydd, arddangos gallu rhanddeiliaid allweddol i gydweithio i gyflawni’r gwelliannau ar lawr gwlad. Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos y cyfle i drawsnewid un o’r dulliau trafnidiaeth pwysicaf mewn cymunedau trefol a gwledig tuag at sero allyriadau.
  5. Annog y defnydd o ddulliau teithio llesol e.e. cerdded, beicio ac olwyno.
  6. Datblygu seilwaith cynhwysfawr i wefru cerbydau trydan, gyda Trafnidiaeth Cymru a’r Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (OLEV) yn mabwysiadu dull gweithredu cyd-gysylltiedig er enghraifft cyflwyno strategaeth safonol ar gyfer darparu cyfleusterau gwefru ar y stryd ar gyfer eiddo heb barcio oddi ar y stryd, ac annog y sector cyhoeddus i newid eu fflyd i Gerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV).

Sut fyddwn ni’n gwybod ein bod ar y trywydd cywir?

Dangosydd Llinell sylfaen Nodiadau
Gostyngiad yng nghyfanswm yr allyriadau CO₂e o deithio a chludiant 244.7 cilo-tunnell o CO₂e Amcangyfrifon ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr tiriogaethol yr Awdurdod Lleol 2005-2022 (data 2022).
Canran y gostyngiad ym milltiroedd cerbydau preifat I’w gardarnhau Mecanwaith ar gyfer casglu data llinell sylfaen o fewn Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
Canran y cerbydau sy’n gerbydau Allyriadau Isel Iawn 1.8% o geir Data Cerbydau Trwyddedig Chwarter 4 2024, Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
Cynnydd yn nifer y mannau gwefru cerbydau trydan sydd ar gael i’r cyhoedd 75 man gwefru ar gael i’r cyhoedd Cofrestrfa Gwefrru Genedlaethol 2023
Cynnydd yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus I’w gardarnhau Mecanwaith ar gyfer casglu data llinell sylfaen o fewn Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol

Beth ydym eisoes yn ei wneud yn dda?

Mae cyflenwi Rhaglen Drawsnewid ULEV yr Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cynnwys:

Rhwydwaith Mannau Gwefru i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) – o dan Gamau 1 a 2 y rhaglen hon, gosodwyd cyfleusterau gwefru cerbydau trydan mewn 185 safle (370 o socedi gwefru) ar draws y rhanbarth. Ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, mae gan y Cyngor 40 o ddyfeisiau gwefru cyhoeddus yn weithredol.

Disgwylir i Gyfnewidfa arfaethedig Bwrdeistref Sirol Caerffili drawsnewid y ffordd mae pobl yn teithio yn ôl ac ymlaen i Fwrdeistref Sirol Caerffili – gan gysylltu pobl â threnau, bysiau, tacsis ac opsiynau teithio llesol drwy hwb trafnidiaeth integredig.

Tudalen 5 o 5
Tudalennau: