Mae yna lawer o alwadau cystadleuol ar ein tir, o gynhyrchu bwyd, datblygu tir ar gyfer tai newydd, hamdden a chadwraeth natur. Mae gan bob un oblygiad carbon – rhai cadarnhaol a rhai negyddol. Mae ein gallu i gyflawni ein huchelgais carbon sero net yn dibynnu ar leihau allyriadau cymaint â phosibl ynghyd â phrosesau
naturiol. Ar gyfer defnydd tir mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni:Mae tir a defnydd o dir yn ategu syniad pobl o hunaniaeth, gweithgarwch economaidd ac egni, bywiogrwydd ac iechyd ein hecosystemau. Bydd y ffordd rydym yn cynllunio i ddefnyddio tir yn y dyfodol yn creu goblygiadau arwyddocaol o ran carbon ac mae hyn yn cysylltu â’r penodau eraill; os gallwn ddatblygu cymunedau sydd â siopau a chyfleusterau wrth ymyl lle mae pobl yn byw ac yn gweithio, byddwn yn lleihau pellter teithio ac felly allyriadau teithio.
Bydd goblygiadau i’r bwyd yr ydym yn ei fwyta ac o ble y daw; mae gan ddiet sy’n seiliedig ar blanhigion ôl troed carbon is ac mae gan fwyd a gynhyrchir yn lleol ‘filltiroedd bwyd’ cysylltiedig is.
Beth ddigwyddodd i adar y to? Roedd fy ngwrych ac fy mwydwr adar yn llawn ohonynt bob blwyddyn cyhyd ers cyn cof… erbyn heddiw, nid oes dim.
Mae prosesau amaethyddol yn cynhyrchu nwyon tŷ gwydr yn cynnwys methan (o ganlyniad i dreulio bwyd gan dda byw) ac ocsid nitraidd (o dail a gwrtaith) yn hytrach na charbon deuocsid. Mae carbon deuocsid yn cael ei atafaelu (yn cael ei ddal a’i storio) gan dyfiant planhigion sy’n cloi’r carbon hwn i ffwrdd ac yn ei atal rhag cyfrannu at gynhesu byd-eang.
Mae’r newid hinsawdd yn achosi clefydau sy’n effeithio ar stoc y coetir gan arwain at weithgareddau cynaeafu cyflymach oherwydd clefydau fel clefyd (Chalara) coed ynn a phytophthora. Mae hyn wedi arwain at gael gwared ar nifer sylweddol o goed aeddfed a lled-aeddfed gan leihau potensial atafaelu carbon cyffredinol y Fwrdeistref Sirol.
Fe wnes i roi’r gorau i fwyta cig ar ôl sylweddoli bod y cig roeddwn yn ei fwyta yn dod o’r Ariannin!
Gall hafau sychach sychu mawn mewn amgylcheddau ucheldir a lleihau maint llynnoedd a lefelau dŵr mewn afonydd a chynefinoedd eraill gan leihau eu gallu i storio carbon.
Mae cydbwyso’r galwadau cystadleuol ar y ffordd y defnyddiwn ein tir a’r hyn mae’n ei gynhyrchu yn elfen hanfodol ar gyfer cyflawni ein huchelgais sero net yn ogystal â chyfrannu at lesiant iechyd, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach. Mae rheoli adnoddau naturiol mewn ffyrdd cynaliadwy i sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol dyfu bwyd yn effeithiol yn her fawr i benderfynwyr rhwng heddiw a 2050.
Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili ychydig dros 30 cilomedr o hyd ac 17.5 cilomedr o led ac mae’n cwmpasu ardal 27,737 Ha, y mae 17.85% wedi’i lleoli o fewn ffiniau aneddiadau. Defnyddir tri chwarter y Fwrdeistref Sirol ar gyfer amaethyddiaeth a choedwigaeth.
Mae gan y Fwrdeistref Sirol
gyfoethog, gan gynnwys ardaloedd wedi’u gwarchod gan ddynodiadau amrywiol (lleol, cenedlaethol a rhyngwladol) a dynodiadau anstatudol, gan gynnwys 13 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o bwysigrwydd cenedlaethol. Er gwaethaf y mesurau diogelu hyn, mae bioamrywiaeth y Fwrdeistref Sirol yn dirywio, gan adlewyrchu’r colledion a brofwyd yn rhannau eraill y DU ac ar draws y byd. Mae niferoedd y pryfed peillio wedi dirywio yn y 3 blynedd diwethaf, mae angen rheoli maetholion mewn pridd yn ofalus iawn a bydd mynediad at ddŵr ar gyfer amaethyddiaeth mewn rhannau o’r DU (gan gynnwys Cymru) yn cael ei herio’n aruthrol gan newid hinsawdd.Mae gan y Fwrdeistref Sirol gymuned o tua 200 o ffermydd ucheldir bychain, sy’n ymwneud yn bennaf â chynhyrchu cig eidion a chig oen. Gall ffermio, ac yn arbennig ffermio da byw, greu effeithiau allyriadau negyddol, mae allyriadau amaethyddol o dda byw wedi cynyddu yn uwch na lefel 1990. Ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae’r cynnydd hwn wedi’i ysgogi’n bennaf gan fagu da byw. Mae gennym ddiffyg cyfleoedd i
, sy’n lleihau allyriadau ar y fferm drwy unedau da byw mawr, ond oherwydd eu bod yn llai, mae’r ffermydd hyn yn cadw at feintiau stoc is, gan arwain yn ôl pob tebyg at safonau lles uwch a’r potensial ar gyfer manteision amgylcheddol ehangach. Mae ymchwil yn awgrymu bod gan gig eidion sy’n cael ei fwydo’n dda ar laswellt yr ucheldir allyriadau is.O fewn y defnydd tir, mae allyriadau eraill yn cyfrannu at newid hinsawdd ac yn effeithio ar gylchau naturiol ehangach. Gall
ansawdd dŵr, gan effeithio ar effeithiolrwydd cylchoedd naturiol ar gyfer tynnu carbon i lawr.Yn hytrach na chaniatáu adeiladu ar fannau gwyrdd, defnyddio safleoedd tir llwyd o safleoedd diwydiannol gwag a siopau gwag i’w troi’n dai cymdeithasol.
Mae hyfywedd ffermydd yn parhau i fod yn broblem, gan greu cyfleoedd i arallgyfeirio. Rydym wedi gweld twf cynyddol mewn grantiau ar gyfer ail-bwrpasu’r defnydd o dir ar ffermydd ar gyfer gweithgareddau fel caeau cerdded cŵn a darpariaeth twristiaeth.
Mae’r newid hwn yn effeithio ar newid defnydd tir o amaethyddiaeth i dwristiaeth gwerth ychwanegol neu sectorau eraill, gan gynyddu allyriadau o bosibl oherwydd gweithgareddau ymwelwyr. Nid yw’n glir a oes modd mesur y cynnydd hwn ar hyn o bryd. Ni chafwyd unrhyw geisiadau newid defnydd tir sylweddol sy’n awgrymu cynnydd sylweddol mewn allyriadau.
Mae’r elusen amgylcheddol Groundwork Cymru yn rhedeg ei raglen Routes2Life (R2L) yn ei safle garddwriaethol yng Nghaerffili, gan roi cyfle i fuddiolwyr o bob oed ddysgu a datblygu amrywiaeth o sgiliau cefn gwlad ymarferol a garddwriaethol, gan gynnwys creu perthi, strimio, ffensio, garddio, tocio a thyfu ffrwythau a llysiau.
Mae llawer o gymunedau ôl-ddiwydiannol Cymru yn dioddef o effeithiau gwaethaf tlodi ac anfantais. Mae R2L yn gwneud yr hyn y mae’n ei dweud yn ei henw – darparu rhaglen addysg a datblygiad sgiliau i oedolion a phobl ifanc sy’n ddifreintiedig ac yn aml yn agored i niwed fel ffordd ymlaen gadarnhaol.
Mae cyfranogwyr yn meithrin sgiliau cymdeithasol, hyder a hunan-barch, yn cael hyfforddiant achrededig gan Agored Cymru ac yn gwella eu CVs gyda phrofiadau cadarnhaol o weithio yn yr awyr agored. Wedi’i ariannu’n rhannol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae R2L hefyd yn ymgysylltu ag ysgolion lleol i ddysgu o’r tir, gan gynorthwyo i gyflwyno’r cwricwlwm a hyrwyddo ffyrdd mwy gwyrdd o fyw.
Mae dysgu a gwirfoddoli ar y rhaglen hon sy’n seiliedig ar y tir yn cynorthwyo pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i gysylltu ag eraill a gyda’r dirwedd, yn ogystal â darparu cynnyrch ffres iddyn nhw gymryd adref.
Mae’r rhaglen yn cael ei chynorthwyo gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac amrywiaeth o gyllidwyr elusennol, ac mae’n enghraifft o’r themâu ‘cydweithredu’ a ‘thrigolion gwybodus’ sydd wedi’u hamlinellu yn y bennod hon, yn ogystal â themâu trawsbynciol ‘galluogi’ ac ‘addysg’.
O safbwynt polisi, mae llawer o ysgogwyr ar gyfer cynyddu effeithlonrwydd ffermio ac arallgyfeirio cnydau. Yn gyffredinol, mae’r polisïau hyn wedi’u hanelu at leihau allyriadau a’r defnydd o ynni. Mae’r newidiadau defnydd tir mwyaf arwyddocaol yn lleol yn ymwneud â daliadau tir preifat y gallwn ddylanwadu arnynt drwy’r broses gynllunio a thrwy ein penderfyniadau prynu unigol a chyfunol. Bydd y 2RLDP yn cael ei arwain gan y Cynllun Ynni Ardal Leol a bydd yn nodi ardaloedd sydd â’r potensial ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd a aseswyd ymlaen llaw ar gyfer tyrbinau gwynt ac ardaloedd a neilltuwyd ar gyfer ffermydd solar. Gyda’r newid mewn technoleg mae potensial i ddefnyddio
, lle mae’r defnydd o baneli solar ac amaethyddiaeth yn gweithio ochr yn ochr heb golli ardaloedd mawr o dir cynhyrchiol. Mae gan ein tirweddau botensial sylweddol ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy, yn enwedig solar a gwynt.Ar gyfer amaethyddiaeth yn benodol, mae Deddf Amaethyddiaeth Cymru yn allweddol, sy’n disodli’r bil amaethyddol blaenorol, a oedd yn darparu taliadau sylfaenol gan yr Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru ar gyfer arferion amaethyddol. Mae’r taliadau hyn wedi llifo drwy’r Ddeddf, gan bennu polisi a thaliadau i ffermwyr a sut maen nhw’n rheoli eu tir.
Byddwn wrth fy modd yn prynu fy wyau a llysiau tymhorol o fy rhandir lleol. Yn ffres ac wedi’i dyfu’n lleol, mae’n gwneud synnwyr.
Bellach mae mwy o bwyslais ar fesurau sy’n seiliedig ar natur o fewn ffermio a chynhyrchu bwyd. Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sy’n deillio o Ddeddf Amaethyddol Cymru, yn amlinellu sut mae ffermwyr yn cael taliadau am atebion sy’n seiliedig ar natur a ffermio sy’n seiliedig ar natur ar eu ffermydd.
Mae’r fframwaith cynllunio ar ddefnydd tir a newid defnydd tir hefyd yn cael ei ddylanwadu gan y Ddeddf hon. Ar lefel leol, mae 2RLDP yn cynnwys asesiad seilwaith gwyrdd (SG). Mae’n mapio ein defnydd tir, diogelu cynefinoedd, a chyfleoedd ar gyfer plannu coed neu
. Cefnogir y gofyniad am asesiadau SG gan strwythurau polisi Llywodraeth Cymru gan gynnwys Polisi Cynllunio Cymru 12. Mae gan yr 2RLDP bolisïau clir a fydd yn sicrhau bod y gwaith o gadw SG yn cael ei gefnogi a’i wella ledled y Fwrdeistref Sirol.Mae’r Ddeddf Coedwigaeth a’r cod carbon ar gyfer hamdden coedwigoedd, ynghyd â chyfarwyddebau polisi cenedlaethol fel y Goedwig Genedlaethol, yn llywio ein targedau creu coetiroedd. Mae’r Cynllun Datblygu Lleol newydd ar y gweill, a fydd yn cynnwys yr asesiad seilwaith gwyrdd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cydweithio â’r tîm Blaengynllunio a thîm y Cynllun Datblygu Lleol i integreiddio ein strategaeth seilwaith gwyrdd, sy’n cynnwys newid defnydd tir a rheoli carbon.
Mae prosiectau Coetir wedi’i Reoli yng Nghaerffili, ac Afonydd y De-ddwyrain, Cyfoeth Naturiol Cymru yn uchafbwynt strategol. Mae gan Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru (WGWE) sydd wedi’i rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (gan gynnwys Coedwig Cwmcarn) rôl i’w chwarae wrth helpu’r gymdeithas ac adnoddau naturiol i addasu i newid yn yr hinsawdd ac i’w liniaru. Bydd cynlluniau i wella ei amrywiaeth strwythurol a rhywogaethau coed yn gwneud y coetir a’i wasanaethau ecosystem yn fwy gwydn i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Ar ôl gwerthuso’r statws carbon net, mae gwell dealltwriaeth yn helpu i lywio penderfyniadau rheoli i ddiogelu stociau carbon presennol a gwella atafaelu carbon, er enghraifft trwy adfer ac ehangu cynefinoedd allweddol ym mawndiroredd a choetiroedd. Bydd hyn yn cyflymu datgarboneiddio yng Nghymru ac yn gwella gwytnwch cynefinoedd naturiol.
Mae prosiect Afonydd y De-ddwyrain yn brosiect adfer afonydd wedi’i harwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyda’r nod o gyflawni rheoli dalgylchoedd integredig ar draws tair afon yng Nghymoedd y De-ddwyrain. Gan gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a phartneriaid eraill, bydd y prosiect yn helpu i ddiogelu, gwella ac adfer prosesau naturiol trwy wella cysylltedd gorlifdiroedd, creu ac adfer cynefinoedd ar hyd coridor pob afon, a gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i helpu i wella ansawdd dŵr a gwneud Bwrdeistref Sirol Caerffili yn iachach. Mae hyn yn ategu rhaglen waith parhaus Cyfoeth Naturiol Cymru ym mhysgodfeydd sy’n darparu ffordd bysgod a gwella cynefinoedd ar hyd yr afonydd hyn.
Mynediad at Fannau Gwyrdd: Byddwn yn hyrwyddo ac yn cadw mynediad at fannau gwyrdd.
Diogelu Ardaloedd Gwyrdd/Glas: Diogelu a chynnal a chadw parciau, coedwigoedd, afonydd a llynnoedd.
Cynyddu Bioamrywiaeth: Annog elw net bioamrywiaeth – gan ddefnyddio planhigion ac anifeiliaid lleol.
Dal Carbon: Anogir tirfeddianwyr i gynyddu’r ffyrdd naturiol o ddal carbon i’r eithaf.
Rheolaeth Gymunedol: Cymunedau’n rheoli coetiroedd a mannau gwyrdd.
Defnydd Effeithlon o Dir: Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth o’r defnydd mwyaf carbon-effeithlon o dir yn helpu i wneud penderfyniadau ar y defnydd gorau o dir.
Gwybodaeth Ffermwyr: Bydd ffermwyr a thyfwyr yn deall sut mae eu harferion yn effeithio ar allyriadau.
Nid wyf yn siŵr sut yr ydym yn cydbwyso’r angen i gynhyrchu bwyd a neilltuo tir ar gyfer ynni adnewyddadwy.
Defnyddwyr Gwybodus: Bydd defnyddwyr yn gwybod beth yw ôl-troed carbon eu bwyd a byddant yn dewis opsiynau carbon isel.
Rheoli Pridd yn Well: Deall a defnyddio arferion rheoli pridd gwell a gwrthbwyso carbon naturiol.
Bwyd Lleol: Bydd mwy o fwyd yn cael ei dyfu a’i fwyta’n lleol.
Prosesau Carbon Isel: Bydd dulliau cynhyrchu bwyd carbon isel yn defnyddio cylchoedd carbon a nitrogen naturiol i leihau gwastraff a gwneud defnydd effeithlon o adnoddau.
Dangosydd | Llinell sylfaen | Nodiadau |
Allyriadau Defnydd Tir, Newid Defnydd Tir a Choedwigaeth | -23.1 cilo-tunnell CO₂e | Amcangyfrifon ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr tiriogaethol yr Awdurdod Lleol 2005-2022 (data 2022) |
Allyriadau Amaethyddiaeth | 44.8 cilo-tunnell CO₂e | |
Amrywiaeth Cynefin | I’w gadarnhau | Data Cynllun Datblygu Lleol |
Maint Cynefin | Tir Fferm Amgaeedig 31.2% Glaswelltir Lled-Naturiol 17.9% Coetir 17.6% Trefol 17.2% Mynyddoedd, gweundiroedd a rhosydd 14.8% Dŵr croyw 1.1% |
|
Cyflwr Cynefin | I’w gadarnhau | |
Cysylltedd Cynefin | I’w gadarnhau | |
Tir amaethyddol (sy’n cael ei ddefnyddio) | 8,647 hectar | Data Cynllun Datblygu Lleol |
Ansawdd Tir amaethyddol | Gradd 1 – 15.05 hectar Gradd 2 – 357.94 hectar Gradd 3a – 435.87 hectar Gradd 3b – 3,138.12 hectar Gradd 4 – 9,680.92 hectar Gradd 5 – 4,173.47 hectar |
Data Cynllun Datblygu Lleol |
Coed a Choetiroedd | 4,887 Hectar | Data Cynllun Datblygu Lleol |
Mannau Gwyrdd Hygyrch | 4,951.65 hectar | Data Cynllun Datblygu Lleol; mannau gwyrdd hygyrch o fewn aneddiadau diffiniedig |
Cefnogi Bywyd Carbon Isel: Cefnogi bywyd carbon isel drwy amaethyddiaeth – tyfu cnydau yn hytrach na magu da byw, wedi’i gydbwyso i gefnogi treftadaeth ac ystyried y dirwedd.
Nid wyf yn gefnogwr o dorri gwair a thocio mannau gwyrdd a byddwn yn hoffi iddynt gael llonydd.
Cydweithrediad: rhwng cynhyrchwyr a dosbarthwyr i annog economi gylchol. Rydym yn alinio adnoddau gyda’r bwriad o feithrin cydweithrediad rhwng cynhyrchwyr a dosbarthwyr i hyrwyddo economi gylchol. Mae cynnal prosesau cyfathrebu agored a meddwl integredig yn hanfodol i’r broses hon. Mae’r dull hwn yn berthnasol nid yn unig i fwyd ond hefyd i gynhyrchion ac eitemau ategol fel gwlân, gan ei gwneud yn strategaeth gynhwysfawr.
Un cryfder allweddol yw rhaglen Grid Gwyrdd Gwent ar draws Gwent gyfan, sy’n cynnwys yr holl bartneriaid cyngor lleol ar draws rhanbarth blaenorol Cyngor Sir Gwent, yn ogystal â Cyfoeth Naturiol Cymru a rhai grwpiau ychwanegol. Mae’r rhwydwaith hwn yn chwilio’n gyson am gyllid amgen a chynnwys rhanddeiliaid eraill, er enghraifft Cadwch Gymru’n Daclus a Groundwork Cymru, i gyflenwi prosiectau sy’n canolbwyntio ar seilwaith gwyrdd.
Defnyddir mesurau creu coetiroedd, mesurau rheoli cynefinoedd, a mapio cyfleoedd ar draws Gwent gyfan, i nodi cyfleoedd trawsffiniol ar gyfer datblygu seilwaith gwyrdd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gweithio ar hyn o bryd gyda Grid Gwyrdd Gwent i ddatblygu Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn ar gyfer Gwent, gan gynhyrchu Asesiadau
lywio mapio gofodol ardaloedd craidd a pharthau adfer natur i ddiogelu, cadw a chysylltu ein hardaloedd pwysicaf ar gyfer cadwraeth natur ymhellach.Rwy’n poeni y bydd yr angen am gartrefi yn golygu y bydd llai o dir yn cael ei neilltuo ar gyfer coed a bywyd gwyllt.
Trwy waith y Grŵp Datblygu Lleol, sefydlwyd partneriaethau gyda chanolfannau sirol, cynghorau a grwpiau eraill y sector preifat. Er enghraifft, mae prosiect Tir Comin Gelligaer a Merthyr yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chymdeithas Tir Comin Gelligaer a Merthyr. Mae’r prosiect hwn yn ariannu menter rheoli ucheldir sy’n helpu i greu a rheoli’r dirwedd ucheldir ar gyfer cynhyrchu bwyd, mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac sy’n canolbwyntio ar adfer cynefinoedd ar gyfer atafaelu carbon drwy greu coetiroedd poced a gwrychoedd, yn ogystal â seilwaith glas i wella gwydnwch carbon.
Mae’r prosiect lled-ranbarthol hwn wedi bod yn llwyddiannus, a’r nod yw ei ddyblygu mewn amgylcheddau ucheldirol eraill. Caiff ei barchu gan gymdeithasau cominwyr eraill, sydd â diddordeb mewn cael adnoddau tebyg ar gael. Darperir y trosolwg strategol gan y ddau gyngor, tra bod yr agweddau gweithredol yn cael eu rheoli gan bartner sector preifat, y Gymdeithas Cominwyr, mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.