Rydym yn gwneud cynnyrch, yn eu defnyddio a’u taflu. Gelwir hyn yn economi linol ac mae’n creu allyriadau nwyon tŷ gwydr wrth gynhyrchu, cludo a gwaredu cynnyrch. Ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, mae gwaredu gwastraff yn cyfrannu at ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Yn ogystal, pan fyddwn yn prynu nwyddau sydd wedi’u cynhyrchu dramor, maent yn creu allyriadau dramor, sy’n ychwanegu at ein hôl-troed carbon cyffredinol.
Mae’r economi linol yn niweidio’r amgylchedd. Mae casglu deunyddiau crai yn niweidio cynefinoedd ac yn defnyddio dŵr ac ynni. Mae gwaredu gwastraff yn cymryd lle ac yn llygru ein hamgylchedd. Dim ond at lefel benodol y gall yr amgylchedd drin gwastraff ac echdynnu adnoddau. Pe bai pawb yn y byd yn byw fel yr ydym yn ei wneud yn y DU, byddai angen pedair planed arnom i ddarparu’r deunyddiau a ddefnyddiwn ac i brosesu’r gwastraff a gynhyrchwn.
Bydd y bennod hon yn trafod y ffyrdd y gallwn gymryd cyfrifoldeb dros ein gwastraff, sut gallwn leihau’r gwastraff a gynhyrchwn, a’r ffordd orau o gael gwared ar y gwastraff yr ydym yn ei gynhyrchu.
Mae cymryd perchnogaeth a chyfrifoldeb am ba wastraff rydym yn ei gynhyrchu, a sut rydym yn cael gwared arno, yn hollbwysig er mwyn cyrraedd ein targed o sero net allyriadau carbon erbyn 2050. Os gallwn hyfforddi ein hunain i ystyried cylch bywyd llawn gwastraff, ar y pwynt prynu , gallwn wneud penderfyniadau gwybodus a fydd yn cyfrannu at atal argyfwng hinsawdd. Bydd ymestyn cylch bywyd ein cynnyrch a’n deunyddiau crai drwy annog Economi Gylchol yn lleihau ymhellach ein hôl troed carbon sy’n gysylltiedig â gwastraff. Er bod y preswylwyr y buom yn ymgynghori â nhw yn falch o’u hymdrechion ailgylchu, mae angen trawsnewidiad ar draws y Fwrdeistref Sirol i ddeall mai peidio â bod yn berchen ar gynnyrch yn y lle cyntaf yw’r fuddugoliaeth fwyaf o bell ffordd.
Mae’n bwysig cydnabod cyfyngiadau’r sector cyhoeddus o ran deall graddau’r gwastraff ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn llwyr. Nid yw gwastraff a gesglir yn breifat gan fusnesau rheoli gwastraff a sefydliadau amlwladol mawr sydd â phresenoldeb yn y Fwrdeistref wedi’i gynnwys yn y data gwastraff. Bydd y gwaith o drin, didoli a phrosesu’r gwastraff hwn yn digwydd y tu allan i ffiniau tiriogaethol Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bennaf. Fodd bynnag, mae gan unigolion a busnesau ddylanwad ar y gwastraff a gynhyrchir a phŵer penderfyniadau o ran beth maen nhw’n ei ddefnyddio a chan bwy.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cyflawni ei dargedau ailgylchu a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn hanesyddol, mae Caerffili wedi cymharu’n dda â Chynghorau eraill Cymru, ond yn y 5 mlynedd ddiwethaf mae’r gymhareb gwastraff gweddilliol wedi gwaethygu. Fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i drechu’r argyfwng hinsawdd, mae’n bwysig i lywodraethau lleol gyflawni’r nodau hyn, felly rydym wedi gweld ymdrech aruthrol yn ddiweddar i symud Caerffili yn y cyfeiriad cywir gyda gwastraff.
Mae ein hymrwymiad i’r egwyddorion cynaliadwyedd uchaf yn llywio ein cenhadaeth i ddylunio deunydd pecynnu y gellir eu hailgylchu, y gellir eu compostio, ac sy’n cyd-fynd â phlaned iachach.
Mae llawer o ddefnyddiau i wastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu hefyd. Gellir ei drawsnewid yn wrtaith ar gyfer amaethyddiaeth neu ynni sy’n ddewis amgen da i danwydd ffosil. Mae ailgylchu gwastraff bwyd yn cynyddu. Pe baem i gyd yn rhoi’r gorau i wastraffu’r bwyd y gellid bod wedi’i fwyta, byddai’n cael yr un effaith CO2 â chymryd 1 o bob 4 car oddi ar ffyrdd y DU.
Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili eisoes wedi gwneud camau breision tuag at economi fwy cylchol. Mae siop Ailddefnyddio Penallta wedi llwyddo i ail-bwrpasu 13,696 eitem yn ystod y 3 mis cyntaf ar ôl agor (1/9/22 i 11/12/22). Mae Rhymney Furniture Revival hefyd wedi bod yn llwyddiant, yn atgyweirio ac adnewyddu dodrefn diangen a rhoi bywyd newydd iddyn nhw. Y gobaith yw y bydd prosiectau fel y rhain yn lluosi yn y dyfodol, a’n symud tuag at economi gylchol.
Mae taith Bwrdeistref Sirol Caerffili tuag at sero net gwastraff wedi’i hysgogi gan gyfuniad o ddeddfwriaethau a pholisïau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Yn genedlaethol, mae strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r fframwaith, ar gyfer anelu at ddyfodol diwastraff yng Nghymru erbyn 2050. Mae’r strategaeth hon yn pwysleisio atal gwastraff, ailgylchu mwy ac arferion rheoli gwastraff cynaliadwy. Yn rhanbarthol mae Cynllun Gwastraff Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru yn darparu canllawiau a thargedau penodol ar gyfer lleihau ac ailgylchu gwastraff gan sicrhau bod awdurdodau lleol yn cydweithio
Yn lleol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi integreiddio’r cyfarwyddebau cenedlaethol a rhanbarthol hyn yn ei Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd (2RLDP), sy’n amlinellu polisïau a chamau gweithredu penodol i gyflawni cynaliadwyedd a lleihau gwastraff. Mae’r Cynllun hwn yn cynnwys hyrwyddo patrymau anheddu sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon, cefnogi datblygiad cyfleusterau rheoli gwastraff ac annog cyfranogiad cymunedau mewn rhaglenni ailgylchu.
Bydd strategaeth gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn helpu i gyflawni ein nodau ac yn gwasanaethu fel buddsoddiad i’n helpu i gyflawni sero net erbyn 2050. Cyflwynir y strategaeth hon erbyn 2028, gyda newidiadau i’r ffyrdd yr ydym yn casglu ac yn gwaredu gwastraff. Ysgrifennwyd pob un o’r rhain gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 mewn cof, ac felly maent yn rhan o’r strategaeth ehangach i wneud Cymru yn fwy cyfrifol yn fyd-eang. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn caffael safle newydd a fydd yn gweithredu fel canolfan weithredol a chyfleuster adfer gwastraff, yn ogystal â sefydlu’r seilwaith angenrheidiol ar gyfer cerbydau casglu gwastraff trydanol y gellir eu hail-wefru. Bydd y buddsoddiad hwn yn mynd ymhell i’n helpu i gyflawni ein nodau lleihau carbon.
Fel Bwrdeistref Sirol mae angen i ni gymryd cyfrifoldeb am y gwastraff rydym yn ei gynhyrchu, gartref, yn y gwaith ac yn gymdeithasol. Mae gwastraff yn cael ei gynhyrchu gan ddewisiadau dyddiol ymwybodol ac anymwybodol. Mae’r hyn sy’n mynd i’n biniau yn dibynnu ar ba bryniannau a wnawn. Wrth bwyso a mesur pryniant, mae angen inni ystyried sut y bydd y cynnyrch hwnnw’n effeithio ar y llif gwastraff pan fydd yn rhagori ar ei ddefnyddioldeb.
Yn y gwaith, ac yn arbennig pan fydd swyddi’n dylanwadu ar newid sefydliadol, rhaid i ni weithio i newid ein harferion ac arferion eraill o’n cwmpas i ddefnyddio ein cyfrifoldeb. Mae’r nod hwn yn ymwneud â newid y ffordd rydym yn meddwl am wastraff.
Un o’n heriau mwyaf yw lleihau faint o wastraff bwyd sy’n cael ei daflu. Gallwn fynd i’r afael â hyn drwy brynu’n gyfrifol, lleihau’r bwyd sy’n cael ei ddifetha gyda dulliau storio priodol, a chael gwared â sbarion yn y bin compost neu wastraff bwyd yn gyfrifol. Lle nad oes modd osgoi gwastraff bwyd, ni ddylid ei daflu fel gwastraff.
Y syniad ddylai fod i ddysgu pobl sut i ddefnyddio bwyd dros ben a choginio’r dognau cywir. Mae compostio yn cael gwared ar fy ngwastraff bwyd a’m cardbord. Mae fy anifeiliaid anwes yn bwyta bwyd dros ben, felly does gen i ddim ‘gwastraff bwyd’.
Pan fydd gwastraff bwyd yn cael ei brosesu drwy
gellir ei ddefnyddio fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy a all leihau ein dibyniaeth ar ffynonellau ynni tanwydd ffosil, yn ogystal â chynhyrchu gwrtaith hylif carbon isel fel sgil-gynnyrch. Trwy ddargyfeirio gwastraff bwyd o gael ei losgi a thuag at weithfeydd treulio anaerobig, gallwn leihau effaith carbon ein ffrydiau gwastraff. Er bod compostio gartref yn well, nid yw popeth yn addas ar gyfer compostio gartref, ac nid oes gan bawb ychwaith y modd i gompostio gartref. Mae’n hollbwysig dargyfeirio’r gwastraff bwyd hwn tuag at y ffrwd gwastraff bwyd bwrpasol.Mae hyn yn ymwneud â gwrthsefyll y dyhead i gael y cynnyrch diweddaraf; a bodloni â dim ond digon yn hytrach na’r pethau diweddaraf. Bydd defnyddio cynnyrch nes iddo dorri yn hytrach na diweddu ei oes trwy uwchraddio i fodel mwy newydd yn lleihau ôl troed carbon. Cynhyrchir gwastraff trwy amnewid eitemau defnyddiadwy gydag iteriadau mwy newydd. Defnyddiwch ef nes iddo dorri, a’i atgyweirio os yw’n gost-effeithiol. Os oes angen uwchraddio eitem, dylid ei werthu ymlaen neu ei roi fel y gall fyw ei gylch bywyd cyn iddo dorri. Ar gyfer prynu technoleg, dillad, dodrefn a bwyd, mae peidio â phrynu symiau gormodol oherwydd bargeinion yn osgoi gwastraff o ddyddiad dod i ben neu ddiffyg defnydd. Bydd newid y meddylfryd i brynu dim ond digon o’r hyn sydd ei angen yn cyfyngu ar ôl troed carbon diangen wrth gynhyrchu eitemau nad oes angen eu disodli
Annog mwy, addysgu preswylwyr ynghylch pam mae’n rhaid i hyn ddigwydd. Rwy’n teimlo bod sbwriel wedi gwaethygu cymaint ac mae angen mynd i’r afael â hyn mewn ysgolion. Addysgwch y plant beth sy’n digwydd i unrhyw beth maen nhw’n ei daflu ar y llawr!
Ehangu safbwyntiau gwyrdd i’r camau cynharach o ddefnyddio adnoddau, yn hytrach na dibynnu ar ailgylchu. Lleihau gwastraff, ailddefnyddio’r hyn na ellir ei leihau ac ailgylchu’r hyn na ellir ei ailddefnyddio, ei atgyweirio neu ei ail-bwrpasu. Mae ymestyn cylch bywyd unrhyw ddeunydd yn hytrach nag ailgylchu ar ôl un defnydd yn cael effaith gyfansawdd a chadarnhaol ar allyriadau carbon. Mae economïau llinol yn dibynnu ar ddeunyddiau crai ac ynni rhad, mae’r economi gylchol yn cadw gwerth y deunyddiau a’r ynni sydd eisoes wedi’u defnyddio yn yr economi am lawer hirach.
Mae’r Prosiect Toybox yn fenter dan arweiniad gwirfoddolwyr sy’n casglu teganau diangen ac yn eu rhoi nhw i deuluoedd a sefydliadau mewn angen ledled De Cymru. Drwy ddargyfeirio teganau i ffwrdd o safleoedd tirlenwi, mae’r prosiect hwn yn cefnogi’r economi gylchol. Gan weithio mewn partneriaeth â busnesau a sefydliadau lleol megis mannau gollwng yng Nghaerffili a’r ardaloedd cyfagos, mae’r prosiect yn darparu cannoedd o gilogramau o deganau bob wythnos, gan helpu dros 400 o blant. Mae gwirfoddolwyr yn gwirio’r teganau sy’n dod i law ac yn eu glanhau nhw i sicrhau eu bod nhw’n gyflawn, yn weithredol ac yn ddiogel i’w trosglwyddo. O ganlyniad, bydd cydlyniant a chydraddoldeb yn y gymuned yn cael eu gwella’n fawr.
Cynyddu cyfleoedd ar gyfer atgyweirio ac ailddefnyddio, faint o breswylwyr sy’n siopa elusen neu’n gwerthu ar Vinted? Ble allwch chi fynd ag eitemau i’w trwsio. A ydych yn hyrwyddo’r mathau hyn o fusnesau?
Mae’r sector Mentrau Cymdeithasol Cymunedol Gwirfoddol yn cynorthwyo newidiadau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr wrth gyrraedd targedau Sero Net. Mae eu gwaith nhw’n cynnwys prosiectau amgylcheddol bach, rheoli tir ar gyfer bioamrywiaeth, cadwraeth natur, a lleihau carbon. Mae enghreifftiau’n cynnwys grwpiau fel Ecopark Cefn Fforest a chymdeithasau rhandiroedd amrywiol sy’n canolbwyntio ar dyfu, ailddefnyddio, ailgylchu a rhoi nwyddau dros ben i fanciau bwyd a’r gymuned leol. Mae gweithrediadau fel hyn yn hanfodol i ddod â’r gymuned ynghyd a chynyddu’r cymorth i bobl fregus.
Mae lleihau’r swm o wastraff sy’n cael ei losgi yn allweddol i leihau ein hôl-troed carbon, nid yw unrhyw wastraff domestig neu fasnachol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn mynd i safleoedd tirlenwi. Mae sicrhau bod yr holl ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu hailgylchu yn hytrach na’u llosgi mewn llosgwr yn hollbwysig, oherwydd mae plastigau wedi’u gwneud o danwydd ffosil a byddant yn rhyddhau carbon i’r aer wrth eu llosgi. Er mai’r prif nod yw lleihau gwastraff, a defnyddio’r swm lleiaf posibl, bydd rhywfaint o wastraff gweddilliol bob amser.
Mae offer electroneg, dillad a dodrefn yn cael eu taflu pan fyddant wedi’u difrodi, er ei bod yn bosibl eu hatgyweirio’n rhad. Bydd gwneud ymdrech ymwybodol i’w hatgyweirio yn helpu i leihau gwastraff. Gellir ail-bwrpasu llawer o gynnyrch ar ôl i’w defnyddioldeb bwriadedig ddod i ben. Mae hyn yn ymestyn cylch oes nwyddau sydd wedi’u cynhyrchu.
Er ein bod weithiau’n credu nad oes gan wrthrych digidol unrhyw ôl-troed carbon, mae eu defnydd o ynni ar y pwynt storio a mynediad yn creu allyriadau. Wrth i’n gweithleoedd a’n bywydau cartref ddod yn fwyfwy digidol, mae angen i ni ddilyn egwyddorion yr hierarchaeth wastraff yma hefyd. O ystyried a oes angen i ni gadw dogfen neu ei symud i’r cwmwl, tynnu a chadw delweddau lluosog o’r un digwyddiad, bydd dileu dogfennau, delweddau a fideos mawr diangen yn rheolaidd i gyd yn ein helpu i gyrraedd ein nodau allyriadau carbon.
Gwneir cynnyrch i dorri’n bwrpasol o fewn cyfnod byr. Mae gan ffonau, gliniaduron fatris na ellir eu hadnewyddu. Cawn ein hannog i fyw mewn cymdeithas dafladwy i gadw’r economi i fynd.
Bydd cydweithrediad eang a chrynhoi adnoddau yn arwain at ganlyniad yn fwy effeithlon, a fydd yn fwy effeithiol na fyddai’n bosibl ei gyflawni fel unigolion. Bwriad y nod strategol hwn yw hwyluso a chyfranogi gymaint â phosibl yn y cydweithredu hwn. Drwy ddarparu gofod ar gyfer cyfnewid syniadau, crynhoi adnoddau ac annog cydweithrediad rhwng unigolion, byddwn yn cyrraedd ein nod yn gyflymach ac yn creu cysylltiadau yn ein cymunedau.
Mae llawer o’r arferion anghynaladwy yn tarddu o gamsyniadau cyffredin, yn enwedig ynghylch gwastraff. Oni bai ein bod yn cael ein hysbysu, ni allwn benderfynu sut i gael gwared ar y gwastraff a gynhyrchwn. Pan mai camwybodaeth yw’r gwahaniaeth rhwng eitem o wastraff yn cael ei daflu ai peidio, mae mynd i’r afael â chamwybodaeth eang yn arwain at enillion wrth ddargyfeirio gwastraff rhag cael ei daflu fel sbwriel.
Mae gennym i gyd ran i’w chwarae, a gall rhywbeth sy’n ymddangos yn ddewis bach greu effeithiau mawr. Nid yw’n wir fod unigolion yn ddiymadferth. Mae gwybod beth na ellir ei ailgylchu yr un mor bwysig â gwybod beth y gellir ei ailgylchu. Gallai un eitem anghywir mewn bin ailgylchu olygu bod y cynnwys i gyd yn cael ei wrthod yn y safle ailgylchu. Mae un halogiad yn gyfrifol am wrthod tunnell o ddeunydd arall y gellir ei ailgylchu. Mae lleihau’r risg o hyn yn hollbwysig.
Fel defnyddwyr yn ein bywydau cartref a gwaith, gallwn ddylanwadu ar eraill gyda’n gwario, i weithgynhyrchu a phecynnu cynnyrch mewn ffordd gynaliadwy.
Dangosydd | Llinell sylfaen | Nodiadau |
Cyfanswm y tunelli o wastraff | 89,905.77 tunnell | 2023/24 WasteDataFlow |
Cyfanswm yr allyriadau o wastraff | 445.3 tunnell CO₂e | Sero Net Llywodraeth Cymru 2023/24 yn Adrodd ar Wastraff Dinesig |
Canran y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi | 1.10% | 2023/24 WasteDataFlow |
Canran y gwastraff sy’n mynd i gyfleuster Troi Gwastraff yn Ynni | 38.70% | 2023/24 WasteDataFlow |
Canran y gwastraff sy’n cael ei ailgylchu | 48.74% | 2023/24 WasteDataFlow |
Canran y gwastraff sy’n cael ei gompostio | 11.46% | 2023/24 WasteDataFlow |
Gorfodi deddfwriaeth wastraff | I’w gardarnhau |
Mae ein hymrwymiad i fynd i’r afael â gwastraff wedi gweld Bwrdeistref Sirol Caerffili yn symud o sefyllfa lle’r oedd yn ailgylchu llai na 5% o wastraff dinesig ym 1997/98 i gyfradd ailgylchu o 59.68% a adroddwyd yn 2021/22.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:
Mabwysiadu’r Ymgyrch Bydd Wych i gefnogi nod Llywodraeth Cymru i Gymru fod y gorau yn y byd am ailgylchu.
Digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd a sioeau teithiol rheolaidd. Mae’r Tîm Cynghori ar Ailgylchu Gwastraff wedi gosod stondinau yng nghanol trefi ac mewn archfarchnadoedd, i hyrwyddo’r ymgyrch gwastraff bwyd Gweddillion am Arian, a mynychu pob Marchnad Nadolig mewn trefi, pentrefi a chanolfannau cymunedol.
Adnewyddu a thrawsnewid hen uned ddiwydiannol yn Siop Ailddefnyddio ger y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi. Mae’r Siop Ailddefnyddio wedi llwyddo, mewn ychydig dros 2 flynedd, i ddargyfeirio 184,974 o eitemau o ffrydiau gwastraff ac yn ôl i mewn i’r economi. Pan fydd y cyfleuster hwn yn fwy sefydledig, rhagwelir cynnydd mewn gweithgarwch ailddefnyddio a gwelliannau i’r targedau dargyfeirio gwastraff.
Sicrhau dros filiwn o bunnoedd o Effeithlonrwydd Adnoddau a’r Economi Gylchol, gan gynnwys £500,000 i ddatblygu Siop Ailddefnyddio Penallta.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi gweithio mewn partneriaeth â Lyreco i arloesi system o ailddefnyddio gwastraff cardbord a phapur o safleoedd ysbytai i ychwanegu at ddeunydd gorwedd anifeiliaid gan gyfrannu at yr economi gylchol leol a lleihau allyriadau o wastraff.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweithio i leihau gwastraff, osgoi prynu nwyddau materol yn ddiangen a meithrin diwylliant o gyfrifoldeb ac effeithlonrwydd adnoddau.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweithredu system ailgylchu gorfforaethol fewnol gyda chatalog dodrefn ar y fewnrwyd. Gall gweithwyr bori eitemau sy’n cael eu storio a allai weddu i’w hanghenion nhw. Mae ceisiadau prynu am ddodrefn newydd yn cael eu monitro a’u hasesu gan y swyddog cynaliadwyedd. Mae dodrefn anaddas heb eu defnyddio yn y sefydliad yn cael eu hailddosbarthu i ddiwallu anghenion yn lle prynu eitemau newydd. Mae unrhyw asedau nad oes modd eu hailddefnyddio nhw’n fewnol yn cael eu rhoi i elusennau neu sefydliadau cyhoeddus neu ofal eraill. Mae ymgyrch barhaus i geisio ffyrdd o osgoi gwastraff tirlenwi a phrynu newydd diangen.
Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi addasu’n gynnar cyn Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle (2023), gan sefydlu cynwysyddion ac arwyddion ar wahân i ganiatáu ar gyfer ailgylchu syml ac effeithiol ar draws gorsafoedd ac adeiladau corfforaethol. Caiff pwysau gwastraff eu monitro i gael cipolwg ar arferion gwastraff a symleiddio casgliadau, ac i greu darnau cyfathrebu ac addysg wedi’u teilwra o amgylch arferion ailgylchu da.