Grŵp Cyflawni Lleol Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pam ydym ni’n gwneud hyn?

Mae'r strategaeth hon ar ffurf drafft ar hyn o bryd.
Tudalen 1 o 2

Ym mis Mawrth 2021 cytunodd y Senedd y byddai Cymru’n cyflawni sero net allyriadau carbon erbyn 2050.

Mae’r newid yn yr hinsawdd yn her sy’n effeithio ar bob agwedd o’n bywydau. Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno ymrwymiad aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflawni sero net allyriadau carbon erbyn 2050. Mae’r strategaeth hon yn amlinellu ein llwybr at ddyfodol cynaliadwy, a sicrhau amgylchedd iachach i genedlaethau heddiw a’r dyfodol.

Mae effeithiau’r newid hinsawdd yn cael eu teimlo ar draws y byd ac yn lleol. Mae tymereddau sy’n cynyddu, digwyddiadau tywydd eithafol a newidiadau i  ecosystemau yn bygwth ein ffordd o fyw. Gall cynnydd byd-eang o ddim ond 1°C arwain at gynnydd o 7% yn nwyster digwyddiadau glawiad eithafol.

Rydym yn anelu at liniaru’r effeithiau hyn, diogelu ein hamgylchedd naturiol a gwella ansawdd bywyd i’n holl breswylwyr.

Mae newid hinsawdd yn fater byd-eang sy’n galw am gamau gweithredu cyd-gysylltiedig ar bob lefel. Mae cytundebau rhyngwladol fel Cytundeb Paris yn nodi’r fframwaith ar gyfer lleihau allyriadau. Yn rhanbarthol, mae Caerffili yn alinio gyda’r polisïau cenedlaethol ac yn cydweithio â chymunedau cyfagos i sicrhau dull cydlynol o fynd i’r afael â’r newid hinsawdd. Mae llosgi tanwydd ffosil yn parhau i ysgogi’r newid hinsawdd, gan ryddhau symiau sylweddol o garbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr eraill (GHG) i’r atmosffer. Mae trawsnewid i ffynonellau ynni adnewyddadwy a gwella effeithlonrwydd ynni yn hollbwysig i leihau ein hôl-troed carbon. Mae’r sector ynni’n gyfrifol am tua 73% o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn fyd-eang.

Pam ein bod wedi cydweithio?

Fel aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gwyddom fod gennym gyfrifoldeb i ysgogi newid a dylanwadu drwy’r hyn a wnawn a sut yr ydym yn ei wneud. Daethom at ein gilydd er mwyn bod yn rhan o’r datrysiad hwnnw. Rydym wedi blaenoriaethu penderfyniadau am y bartneriaeth gydweithredol hon gyda charbon, gan gynnwys cynnal cyfarfodydd ar-lein a phrosesau golygu a delweddau carbon is.

Mae cyflawni sero net allyriadau yn ymdrech cydweithredol. Mae gan bob unigolyn, busnes a sefydliad yng Nghaerffili ran i’w chwarae. O leihau defnydd o ynni a gwastraff i gefnogi arferion cynaliadwy, bydd ein gweithredoedd cydweithredol yn arwain at newidiadau ystyrlon.

Beth fydd hyn yn ei gyflawni?

Byddwn yn gweld ansawdd aer gwell, gwelliannau i iechyd y cyhoedd ac economi leol sy’n fwy cydnerth.

Bydd methiant i weithredu yn arwain at ddirywiad amgylcheddol difrifol, ansefydlogrwydd economaidd, ac argyfyngau iechyd. Heb ostyngiadau sylweddol mewn allyriadau, gallai tymereddau byd-eang gynyddu 2°C, gan arwain at dywydd poeth, sychder, llifogydd a stormydd amlach a mwy difrifol.

Drwy gymryd camau rhagweithiol yn awr, gallwn sicrhau dyfodol mwy diogel i bawb.

Dyma sut mae popeth yn dechrau. Drwy rywun yn dweud, iawn, dwi’n mynd i wneud yr un peth yma, a dweud wrth eu ffrind

Cwmpas/Pwrpas y Strategaeth

Comisiynwyd y strategaeth hon gan Grŵp Cyflawni Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, gydag aelodau o’r sefydliadau partner:

Nod y strategaeth hon yw llywio penderfynwyr, preswylwyr a busnesau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i gyflawni sero net allyriadau erbyn 2050. Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar themâu, rhwystrau a galluogwyr  trawsbleidiol, wedi’u dilyn gan benodau ar sectorau penodol.

Oherwydd bod sefydliadau’r sector cyhoeddus eisoes yn gweithio tuag at sero net allyriadau carbon erbyn 2030, gyda chamau gweithredu cynhwysfawr ar waith; mae’r strategaeth hon yn mynd i’r afael â ‘phopeth arall’. Yn benodol, mae’r strategaeth hon yn cwmpasu Bwrdeistref Sirol Caerffili. Nid yw Addasu i’r Hinsawdd wedi’i gynnwys yng nghwmpas y ddogfen hon, sy’n canolbwyntio ar liniaru effeithiau presennol newid hinsawdd. Mae’n strategaeth lefel uchel sy’n pennu cyfeiriad: Mae camau gweithredu penodol yn cael eu hamlinellu yn y cynllun gweithredu ategol.

Tudalen 2 o 2
Tudalennau: