Mae’r bennod hon yn sôn am y mannau rydyn ni’n byw ac yn gweithio ynddynt, sut maen nhw’n gwasanaethu eu diben a’u defnyddwyr a’u heffaith ar allyriadau carbon ac ar yr amgylchedd. Mae’n edrych ar sut mae adeiladau’n defnyddio ac yn effeithio ar y galw am ynni ac yn ein cadw’n gynnes ac yn oer. Mae’n sôn am sut y bydd adeiladau newydd yn cael eu dylunio a’u hadeiladu a sut y bydd adeiladau presennol yn cael eu haddasu ac y gwneir y defnydd gorau ohonynt, a sut mae’r elfennau hyn yn cyd-fynd â’r pos sero net 2050.
Yn y pen draw, mae’n ymwneud â sut y gallwn symud i ffwrdd oddi wrth danwyddau ffosil yn y systemau o adeiladu, pweru a gwresogi ein hadeiladau a sut y gallwn addysgu defnyddwyr adeiladau am y galw am ynni a’i effeithlonrwydd, a’r prosesau a all wneud dewisiadau llai drud-ar-garbon.
Rwyf wedi clywed am ffynonellau ynni amgen ond hoffwn wybod mwy am sut y gellir eu defnyddio mewn amgylchedd cartref arferol.
Mae adeiladau yn rhan aruthrol a hanfodol o’n bywydau ac maent yn rhan unigryw o hunaniaethau hanesyddol a diwylliannol ein cymunedau. Mae adeiladau yn cartrefu unigolion a theuluoedd, maen nhw’n galluogi busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu nwyddau a gwasanaethau, ac maen nhw’n darparu diogelwch rhag effeithiau newid hinsawdd.
Mae angen ynni ar adeiladau i ddarparu pŵer a gwres wrth gyflawni eu swyddogaethau – p’un a yw hyn yn offer yn y cartref neu’n gyfarpar gweithgynhyrchu. Mae sero net yn dibynnu ar sicrhau bod adeiladau, p’un a ydynt yn cael eu hôl-osod neu’n cael eu hadeiladu o’r newydd, yn addas i’w diben ac yn ynni effeithlon, ochr yn ochr â sicrhau bod defnyddwyr adeiladau yn deall eu rôl i leihau’r galw am ynni ac o ganlyniad allyriadau o ganlyniad i ddefnyddio adeiladau.
Rhagwelir bod allyriadau adeiladau yn 313 ktCO2e ar gyfer 2023, sy’n cynrychioli 65% o gyfanswm allyriadau’r system ynni – nid yw hyn yn cynnwys allyriadau o wastraff a defnydd tir, newid defnydd tir a choedwigaeth.
Roedd gwresogi yn cynrychioli 48% o gyfanswm yr ynni ar draws y Fwrdeistref Sirol gyda chartrefi yn cyfrif am 72% o’r holl alw am wres.
Yng Nghaerffili, mae 81,000 o adeiladau domestig:
Mae 96% o gartrefi wedi’u cysylltu i’r grid nwy, sy’n uwch na’r cyfartaledd rhanbarthol o 91%. Mae 5% o’r stoc tai yn wag, sy’n is na chyfartaledd Cymru o 8.4%. Mae gan dîm Cartrefi Caerffili Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 10,682 o gartrefi i’w rheoli, eu cynnal a’u gwella.
Mae’n rhyfeddol y gwahaniaeth y gall rhywbeth bach, fel symud y gwres i lawr un rhicyn ei wneud.
Mae effeithlonrwydd ynni y stoc tai yn amrywio ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae cartrefi yn y Coed Duon, Hengoed a Chaerffili yn arddangos sgorau uwch na chyfartaledd y Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC). Yn nodweddiadol, mae gan aneddiadau llai y tu allan i’r prif ganolfannau poblogaeth hyn sgorau is y Dystysgrif Perfformiad Ynni.
Yn 2019, ystyriwyd bod 9% o aelwydydd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili mewn
, o gymharu â 14% o aelwydydd ledled Cymru.Mae 5,500 adeilad annomestig:
Mae gan y DU darged cyfreithiol rwymol i leihau allyriadau net 100% erbyn 2050 (o gymharu â lefelau 1990). Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi datgan na fydd y DU yn cyrraedd ei thargedau datgarboneiddio heb ddatgarboneiddio’r stoc tai bron yn gyfan gwbl, gydag adeiladau preswyl yn cyfrif am 20% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU gyfan.
Mae’r Strategaeth Gwres i Gymru, a gyhoeddwyd yn 2024 gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei harwain gan bump egwyddor sylfaenol wrth fynd i’r afael â’r her o ddatgarboneiddio gwres yng Nghymru:
Mae’r strategaeth yn pwysleisio dull gweithredu system gyfan, sy’n cynnwys cydweithio gyda Llywodraeth y DU, diwydiant a chymunedau lleol i gyflawni’r nodau hyn. Mae’r cynllun gweithredu sy’n cyd-fynd â’r strategaeth yn ategu’r camau gweithredu penodol i adeiladau a amlinellir yng Nghyllideb Carbon 2.
Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) yn sicrhau bod yr holl dai cymdeithasol yng Nghymru o ansawdd da a’u bod yn addas ar gyfer anghenion y preswylwyr. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i gartrefi fod mewn cyflwr da, eu bod yn ddiogel, yn ynni-effeithlon, ac yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern. Mae’r safon hefyd yn pwysleisio creu amgylcheddau deniadol a diogel i denantiaid.
Mae’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn offeryn allweddol wrth ddatgarboneiddio tai cymdeithasol, gan gynnig cyllid i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol i osod mesurau effeithlonrwydd ynni. Mae’n cymryd dull tŷ cyfan, pragmatig, gan ystyried y deunydd adeiladu, systemau gwresogi, storfa ynni a chyflenwad ynni, yn ogystal â mynd i’r afael â thechnolegau awyru ac ynni adnewyddadwy lle bo hynny’n briodol.
Yn ganolog i ddarparu’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio mae PAS 2035, PAS 2030, safonau adeiladu cyfredol, a Rhan L o’r Rheoliadau Adeiladu yn benodol. Mae PAS 2035 yn nodi dull tŷ cyfan, deunydd yn gyntaf, sy’n gofyn am asesiadau eiddo cynhwysfawr, gan gynnwys Asesiadau Ôl-osod a Chydlynu Ôl-osod, i gymhwyso’r mesurau cywir yn y drefn gywir, gan osgoi materion fel lleithder neu awyru gwael. Mae PAS 2030 yn diffinio gofynion cymhwysedd ar gyfer gosodwyr, gan sicrhau bod contractwyr achrededig yn darparu gosodiadau o ansawdd uchel sy’n cydymffurfio â’r safonau technegol perthnasol. Mae Rhan L yn sefydlu safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol, gan ysgogi gwelliannau mewn inswleiddio, gwresogi ac allyriadau carbon, ac alinio gwaith ôl-osod ag amcanion sero net hirdymor y Llywodraeth.
Mae cyllid y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn dibynnu ar gadw at y safonau hyn, gan sicrhau ansawdd cyson a’r arbedion carbon mwyaf posibl. Mae hefyd yn gofyn am fonitro a gwerthuso parhaus o’r mesurau ôl-osod i ddangos canlyniadau perfformiad. Mae trydydd cam y rhaglen yn dod i ben yn y flwyddyn ariannol 24-25, gyda’i pharhad i chwarae rhan hanfodol yn y datgarboneiddio tymor hir tai cymdeithasol.
Trwy ymgorffori’r safonau hyn, mae cyllid y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn gwella effeithlonrwydd ynni nawr, yn ogystal â ond hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer tai cymdeithasol cynaliadwy, sero net yn y dyfodol, gan helpu creu cartrefi sy’n addas i’r dyfodol a gwella cysur a lles preswylwyr.
Hyrwyddo gosod briciau/bocsys adar, ystlumod a phryfed i wella strwythurau newydd a phresennol ar gyfer bioamrywiaeth i gynorthwyo heb dargedau sero.
Mae prosiectau adeiladu newydd yn debygol o fod yn rhai ag effeithlonrwydd gwell o gymharu â stoc hŷn, fodd bynnag, mae’r farchnad tai preifat yn parhau i gynhyrchu cartrefi nad ydynt yn addas ar gyfer dyfodol sero carbon, mae angen i ni gyflawni’r safonau sero net ar raddfa.
Mae’r Cynllun Ynni Ardal Leol (LAEP) ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili yn darparu strategaeth glir i drosglwyddo’r system ynni leol yn allyriadau sero net erbyn 2050. Mae’r cynllun yn nodi’r camau mwyaf effeithiol i leihau’r galw am ynni, gwella effeithlonrwydd ynni, a chynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy ar draws cartrefi, busnesau ac adeiladau cyhoeddus. Mae’n tynnu sylw at ymyriadau gofid isel – megis uwchraddio inswleiddio, pympiau gwres, a systemau ynni clyfar – sy’n darparu arbedion carbon ar unwaith, biliau ynni is, a gwella cysur adeiladau.
Mae’r Cynllun Ynni Ardal Leol yn cynorthwyo’r newid tuag at systemau ynni datganoledig, gan hyrwyddo cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol trwy solar, gwynt a rhwydweithiau gwresogi ardal. Mae’r dull hwn yn cryfhau diogelwch a gwytnwch ynni, gan leihau dibyniaeth ar danwydd ffosil wrth amddiffyn cymunedau rhag prisiau ynni cynyddol a tharfu ar gyflenwi.
Bydd yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd (2RLDP) yn ymgorffori’r egwyddorion hyn mewn datblygiadau yn y dyfodol, gan osod polisïau sy’n ei gwneud yn ofynnol i adeiladau preswyl newydd fodloni safonau ‘Passivhaus’ ac annog defnyddio deunyddiau carbon isel a thechnolegau adnewyddadwy integredig. Bydd adeiladau diwydiannol, masnachol a chyhoeddus hefyd yn cael eu harwain gan bolisïau sy’n hyrwyddo dulliau adeiladu cynaliadwy, perfformiad ynni uwch, ac ôl-osod eiddo presennol i wella effeithlonrwydd ynni.
Bydd pontio teg i sero net yn gofyn am gyfranogiad cymunedau lleol. Bydd rhaglenni ymgysylltu yn darparu cyngor a chymorth i helpu trigolion a busnesau i wella eu heffeithlonrwydd ynni, wrth i brosiectau ynni cymunedol yn galluogi cymdogaethau i elwa yn uniongyrchol o ynni adnewyddadwy wedi’i gynhyrchu’n lleol. Bydd y cynllun hefyd yn creu cyfleoedd swyddi gwyrdd ac yn cynorthwyo datblygu sgiliau mewn ôl-osod ac adeiladu carbon isel.
Bydd cydweithio rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, busnesau lleol, cymdeithasau tai, a grwpiau cymunedol yn hanfodol i gyflawni’r uchelgeisiau hyn. Bydd mynediad at raglenni cyllid Llywodraeth Cymru fel y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a ffrydiau cyllido eraill yn helpu i ddatgloi buddsoddiad mewn isadeiledd carbon isel, gan greu dyfodol mwy gwydn, cynhwysol a chynaliadwy o ran ynni i Fwrdeistref Sirol Caerffili.
Erbyn 2050, rydym eisiau i’n hadeiladau fod angen llai o ynni, eu bod yn cynhyrchu ffurfiau ynni adnewyddadwy, a fydd yn addasu i’r hinsawdd sy’n newid, a pharhau i wasanaethu eu diben i deuluoedd a’r gymuned, wrth ddarparu diogelwch, ymdeimlad o berthyn a chyfrannu yn y pen draw at ein llesiant ni a’r blaned.
Gwaith Ôl-osod Tai Lloches Maesteg – Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cwblhau gwaith ôl-osod trawsnewidiol yn nhai lloches Maesteg ym Mhentwyn-mawr, Trecelyn, gan wella effeithlonrwydd ynni, cysur preswylwyr, a pherfformiad amgylcheddol yn sylweddol. Mae’r cynllun yn rhan o ymrwymiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddatgarboneiddio ei stoc dai a gwella ansawdd bywyd preswylwyr.
Roedd y gwaith ôl-osod yn cynnwys inswleiddio waliau allanol a waliau ceudod, ffenestri a drysau gwydr triphlyg, adnewyddu toeau gyda phaneli ffotofoltäig integredig, a systemau awyru mecanyddol gydag adfer gwres (MVHR) ynghyd ag uwchraddio’r inswleiddio atig a gosod goleuadau ynni isel (LED). Cafodd model rhagfynegi ei ddefnyddio i flaenoriaethu’r mesurau mwyaf effeithiol. Mae’r uwchraddiadau hyn wedi gwella sgôr effeithlonrwydd ynni cartrefi unigol yn sylweddol, gan eu codi nhw o D/C i B/A uchel.
Roedd ymgysylltu â phreswylwyr wrth wraidd y prosiect, gydag ymgynghoriadau cyn dechrau, sesiynau adborth rheolaidd, a digwyddiad trosglwyddo ôl-gwblhau yn dangos sut i ddefnyddio’r systemau newydd a sicrhau’r arbedion ynni gorau posibl.
Mae’r manteision amgylcheddol yr un mor drawiadol. Er bod cartref cyffredin yn y Deyrnas Unedig yn cynhyrchu chwe thunnell o CO₂ y flwyddyn, mae’r cartrefi hyn sydd newydd eu hôl-osod bellach yn cynhyrchu dim ond 0.6 tunnell ar gyfartaledd – sef gostyngiad o 90%. Dros y 12 mis nesaf, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn monitro’r defnydd o ynni, ansawdd aer yn y cartrefi, cysur thermol a chyfrannau cynhyrchu ynni’r paneli ffotofoltäig, ochr yn ochr â gwiriadau cynnal a chadw arferol, i sicrhau bod yr uwchraddiadau’n darparu manteision parhaol. Mae’r adborth cynnar wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda phreswylwyr yn adrodd am gartrefi cynhesach a biliau is.
Mae gwaith ôl-osod Maesteg yn dangos ymrwymiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i greu cartrefi carbon isel o ansawdd uchel sy’n gwella ansawdd bywyd ac yn cynorthwyo dyfodol mwy cynaliadwy.
Dangosydd | Llinell sylfaen | Nodiadau |
Sgoriau Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer Adeiladau Domestig (Preifat) | A – 140 B – 4,062 C – 22,413 D ac yn is – 43,425 |
Data Cynllun Ynni Ardal Leol 2023 |
Sgoriau Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer Adeiladau Domestig (Tai Cymdeithasol) | A-39 B-99 C (75-80) – 1074 C (69-74) – 4893 D – 2184 E-73 F – 2 Dim DATA – 2318 |
Stoc Tai Cymdeithasol sy’n eiddo i Gyngor Caerffili ym mis Ionawr 2025 |
Sgoriau Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer Adeiladau Annomestig | I’w gadarnhau | |
Nifer y Pympiau Gwres wedi’u Gosod (Domestig) | 302 Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer 43 Pwmp Gwres Ffynhonnell Ddaear |
Adroddiad Cynhwysedd Gosodedig, Senarios Dosbarthu Ynni yn y Dyfodol 2024 |
Gosodiadau Pwmp Gwres Annomestig | Arwynebedd llawr o 105 metr sgwâr | Adroddiad Cynhwysedd Gosodedig, Senarios Dosbarthu Ynni yn y Dyfodol 2024 |
Allyriadau o Adeiladau | 313 cilo-tunnell CO₂e | Data Cynllun Ynni Ardal Leol 2023 |
Mynediad at grantiau ôl-osod – domestig ac annomestig | I’w gadarnhau | I’w gadarnhau |
Nid yw’r dangosyddion hyn o reidrwydd yn rhai sy’n cynhyrchu’r newid cadarnhaol mwyaf. Gall y newidiadau gorau posibl ar gyfer lleihau allyriadau carbon fod yn anoddach i’w mesur (peidio â theithio, peidio â phrynu eitem). Fodd bynnag, mae’r dangosyddion isod yn rifadwy ac yn fesuradwy, gallwn ni allosod ein bod ni’n symud naill ai tuag at ein nod o sero net neu beidio. Bydd y mesurau hyn yn cael eu haddasu dros amser a’u mesur yn flynyddol i sicrhau ein bod ni’n ymateb yn briodol ac yn gymesur i newid yn yr hinsawdd.
Addysgu a hysbysu – datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth mewn cymunedau ar y newidiadau sydd eu hangen i leihau’r galw am ynni a datgarboneiddio adeiladau. Mae angen addysgu trigolion ar sut i wneud y defnydd gorau o adeiladau wedi’u hôl-osod. Mae angen i ni gydweithio ar draws sefydliadau addysgol. Mae’n rhaid i ni gydweithio ar draws sefydliadau addysgol i fynd i’r afael â bylchau mewn cymwysterau a sgiliau. Mae cyfle i gynnwys perchnogion adeiladau mentrau cymdeithasol cymunedol gwirfoddol yn hyn; mae adeiladau cymunedol yr un mor aneffeithlon â’n stoc tai domestig.
Polisi – defnyddio ysgogiadau polisi lleol i ymgorffori datgarboneiddio mewn datblygiadau yn y Fwrdeistref Sirol. Cydweithio’n rhanbarthol ac yn genedlaethol i gyfrannu at ddatblygu polisi ehangach gyda’r nod o sicrhau trosglwyddiad cyfiawn i sero net wrth ddatblygu ac ôl-osod adeiladau. Dim ond trwy gynnwys systemau storio ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy sy’n arwain at sicrwydd a gwydnwch ynni y gellir gwella llai o alw am ynni. Er y gall strwythur polisi ddarparu’r arweiniad a’r seilwaith cefndir i gyrraedd sero net, bydd newid canfyddiadau o’r hyn y mae hyn yn ei olygu i benderfyniadau bob dydd hefyd yn gofyn am newid ym marn y cyhoedd er mwyn gwthio’r newidiadau hynny i’w cam cwblhau.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweithio i ddatgarboneiddio ystâd bresennol drwy gael gwared ar wresogi â nwy a gosod offer cynhyrchu adnewyddadwy lle bo hynny’n bosibl, ac ymdrechu i gynnwys cynaliadwyedd ac amgylcheddau fel amcanion allweddol mewn unrhyw ailddatblygu neu adnewyddu yn y dyfodol.
Cyn bo hir, bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ar Orsaf Dân newydd yn New Inn a fydd yn integreiddio mesurau ynni adnewyddadwy ac yn sicrhau bod adeiladwaith yr adeilad yn cyrraedd targedau inswleiddio thermol cyfoes. Nod y cynllun fydd anelu at gyflawni sgôr BREEAM ‘Rhagorol’, bod yn Garbon Sero Net o ran gweithredu a bod yn brosiect enghreifftiol o fewn Ystâd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Bydd 23 man parcio, gan gynnwys tri bae i bobl ag anableddau a phum man gwefru cerbydau trydan, a phaneli solar wedi’u gosod ar y to. Bydd coed hefyd yn cael eu plannu ar draws y safle, yn ogystal â pherthi newydd, llwyni, glaswellt ac ardal llesiant ar gyfer staff, yn ogystal â blychau nythu adar ac ystlumod.
Mae cynnwys mannau gwyrdd ac ystyriaethau ar gyfer bywyd gwyllt lleol yn cyfoethogi’r prosiect ymhellach ac wrth i gymunedau a gwasanaethau flaenoriaethu cynaliadwyedd yn gynyddol, mae prosiectau fel hyn yn enghreifftiau o sut i gydbwyso ymarferoldeb ag ymwybyddiaeth amgylcheddol wrth baratoi ar gyfer anghenion gweithredol presennol a dyfodol y gwasanaeth tân.
Cadwyni Cyflenwi Lleol dibynadwy – sy’n cefnogi’r broses o greu cadwyni cyflenwi a sgiliau lleol i ysgogi newidiadau ym maes adeiladu.
Arwain drwy Esiampl – Ysgogi systemau caffael a phrosesau’r sector cyhoeddus i ddatgarboneiddio adeiladau cyhoeddus, gan gyfrannu at y gwaith o ddatblygu cadwyni cyflenwi a datblygu sgiliau. Gallwn ni arwain trwy ystyried atebion ar sail natur ar bob datblygiad newydd ar gyfer dal carbon, inswleiddio a gwytnwch hinsawdd. Cyfleoedd solar gwyrdd i gynyddu effeithlonrwydd paneli solar a darparu lleoedd ar gyfer bioamrywiaeth. Toeau gwyrdd ar gyfer gwytnwch hinsawdd mewn datblygiadau ‘Byw Bywyd Hŷn’ newydd – oeri eiddo mewn tywydd cynhesach i amddiffyn trigolion agored i niwed.
Sefydlu cyllid teg – cefnogi preswylwyr a busnesau i allu gwneud y newidiadau sydd eu hangen i’w hadeiladau.
Sicrhau y gall pob adeilad ymdopi ag anghenion cysylltedd digidol a thechnoleg y deiliaid (busnes a phersonol)
Cydweithio ac Arloesi – parhau i weithio gyda phob rhanddeiliad i ddatblygu arloesedd sy’n cefnogi adeiladau a dulliau adeiladu sero net.
Uchafbwynt strategol: Rhaglen Ôl-osod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan –
Mae’r 3 canolfan glinigol newydd sy’n agor yn golygu bod y defnydd o ynni ac allyriadau carbon o adeiladau wedi cynyddu wrth i faint yr ystâd a gweithgarwch clinigol gynyddu ar draws y Bwrdd Iechyd drwy wneud effeithlonrwydd yng ngweithrediad gwasanaethau’r adeiladau (goleuadau, awyru, gwresogi, a dŵr poeth) drwy gydol y flwyddyn rydym wedi lliniaru cynnydd mewn allyriadau i 0.3% yn 2024.
Mae Ystadau a Chyfleusterau Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran datblygu contractau perfformiad ynni. Trwy dendr cystadleuol dyfarnwyd contract Rhaglen Ôl-osod Cymru i Vital Energi Cyf. Mae’r bartneriaeth hirdymor hon yn darparu buddsoddiad sylweddol mewn prosiectau ynni carbon isel ac adnewyddadwy ar draws y prif ysbytai a safleoedd cymunedol yn y blynyddoedd i ddod trwy sawl cam gwaith. Bydd hyn yn cyfrannu at arbedion carbon sylweddol tuag at uchelgeisiau datgarboneiddio’r Bwrdd Iechyd.
Yn ystod 23/24 cwblhaodd y Bwrdd Iechyd fenter 9 Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru i wneud y defnydd gorau o wasanaethau adeiladau ysbytai. Mae systemau gwresogi, goleuo ac awyru wedi’u gwerthuso a newidiadau technegol wedi’u gwneud i sicrhau bod systemau’n rhedeg mor effeithlon â phosibl ac yn gweithredu dim ond pan fyddant yn cael eu defnyddio. Gwnaed arbedion cyfredol i drydan a nwy drwy’r newidiadau technegol hyn, gan sicrhau arbediad carbon blynyddol o 118 tunnell.
Mae gweledigaeth ‘Agenda ar gyfer Newid’ tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymrwymo i adeiladu tai i fod yn garbon sero net. Trwy ôl-osod cartrefi presennol, bydd y cyngor yn darparu cartrefi sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Mae pum blaenoriaeth strategol yr agenda hwn wedi’u hategu gan themâu trawsbynciol (i) datblygu cynaliadwy; (ii) iechyd a llesiant; a, (iii) cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymrwymo i ddatblygu fframwaith polisi yn yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd (2RLDP) sy’n rhagdybio o blaid dulliau adeiladu carbon-gyfeillgar mewn datblygiadau preswyl, masnachol a diwydiannol. Defnyddir dulliau adeiladu carbon-gyfeillgar i adeiladu cartrefi newydd sy’n arwain at ostyngiad yn y defnydd o ynni ym mhob datblygiad tai newydd. Anogir y defnydd o dechnegau tai arloesol megis adeiladu modiwlaidd a Passivhaus ochr yn ochr â defnyddio deunydd ecogyfeillgar i greu cartrefi effeithlon iawn.
Mae cartrefi ‘Byw Bywyd Hŷn’ yn cael eu hadeiladu gan ystyried effeithlonrwydd ynni a chostau isel i gwsmeriaid. Mae’r rhaglen ddatblygu’n cynnwys mwy na 30 o safleoedd ar hyn o bryd a rhagwelir y bydd y prosiectau’n cael eu cyflawni yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Blaenoriaeth Cartrefi Caerffili yw darparu cartrefi sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, sy’n cydymffurfio ac sy’n lleihau costau ynni i’r cwsmeriaid.
Mae’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn rhaglen gydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Lleol. Mae’n rhaglen buddsoddiad cyfalaf strategol hirdymor gyda’r nod o greu cenhedlaeth o Ysgolion yr 21ain Ganrif. Cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y byddai’n ofynnol i bob prosiect adnewyddu ac ymestyn mawr newydd, o 1 Ionawr 2022, sy’n gwneud cais am gymorth drwy’r Rhaglen arddangos eu bod wedi cyflawni carbon sero net yn y cam gweithredu yn ogystal ag 20% o ostyngiad yn y swm o garbon ymgorfforedig – y carbon a allyrrir drwy ddeunyddiau adeiladu a’r broses adeiladu.